Waze – mae Gareth nôl!

Mae’r ap llywio Waze wedi cael sylw‘n ddiweddar yng Nghymru am y rhesymau anghywir. Diflannodd Gareth! Cafodd Waze ei addasu i’r Gymraeg dan grant gan Lywodraeth Cymru nôl tua 2017 gan gwmni cyfieithu a lleoleiddio Applingua ac ar ddiwedd y cyfnod grant ddaeth y gefnogaeth i ben. Mi wnes i ac eraill barhau cyfieithiad y… Darllen Rhagor »

WordPress 6.0 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y dull o olygu’r wegan gyfan a llywio drwy gyfrwng blociau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: Croeso i WordPress 6.0 Mae WordPress 6.0 yn cynnwys mwy na 500 o welliannau… Darllen Rhagor »

Macsen Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf o Macsen, y cynorthwyydd personol Cymraeg, yn cynnwys 3 sgil newydd: Trawsgrifio testun Cymraeg – mae modd siarad â Macsen ac wedyn copïo’r testun i ap arall. Amserydd – amseru cyfnodau amrywiol. Rheoli goleuadau Philips HUE – defnyddio Macsen i droi golau Philips Hue ymlaen neu i ffwrdd. Mae’r rhain yn ychwanegol… Darllen Rhagor »

Holiadur Cydraddoldeb Ieithyddol Ewrop

Cais am gymwynas! Oes gyda chi farn ar y gefnogaeth ddigidol i gymunedau ieithyddol yn Ewrop, a’r Gymraeg yn benodol? Mae project Cydraddoldeb Ieithyddol Ewrop yn gofyn i chi gyfrannu at eu holiadur byr. Holiadur: https://european-language-equality.eu/language-surveys/ Diolch!

Gwefan Scratch ar Waith

Mae gwefan Scratch ar Waith – Scratch in Practice – yn ffynhonnell syniadau a deunyddiau gan Dîm Scratch ac addysgwyr sy’n cefnogi Scratch. Mae’r wefan yn cynnwys adnoddau ar gyfer cydweddu Scratch ar gyfer y cwricwlwm addysgol lleol, ffyrdd diwylliannol  amrywiol o wneud defnydd o Scratch, cyd ddysgu cyfoedion a chreu projectau ar gyfer rhannu… Darllen Rhagor »

Signal Desktop Cymraeg

Mae Signal Desktop nawr ar gael yn Gymraeg. Mae modd gosod y rhaglen bwrdd gwaith ar gyfer Windows, MacOS a Linux – Debian o wefan Signal. Beth yw Signal? Rhaglen negesu a fideo gysylltu wedi ei amgryptio yw Signal. Mae’n bosib cyfathrebu gydag unigolion neu grwpiau, drwy destun neu fideo. Mae ganddo lefelau diogelwch uwch… Darllen Rhagor »

LibreOffice 7.3 Newydd

LibreOffice 7.3 yw’r fersiwn mawr diweddaraf, gyda phwyslais cryf ar gydweddiad dogfennau. Ond mae ganddo nifer o nodweddion newydd hefyd – gwyliwch y fideo am drosolwg, yna sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth…   Trowch isdeitlo Cymraeg ymlaen ar y fideo 🙂 Gwell cydweithredu Rhannu dogfennau a golygiadau gyda defnyddwyr eraill? Mae nodwedd tracio… Darllen Rhagor »

WordPress 5.9 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y dull o olygu’r wegan gyfan a llywio drwy gyfrwng blociau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: WordPress 5.9 Adeiladwch y wefan rydych chi wedi bod eisiau ei chael erioed –… Darllen Rhagor »

Cysgliad am Ddim

Dyw hi ddim yn hawdd ysgrifennu Cymraeg cywir a dyna lle mae Cysgliad mor ddefnyddiol. Mae’r casgliad o raglenni – gwirydd sillafu, thesawrws a geiriadur ar gael am ddim ar gyfer defnyddwyr Windows.  Ar gyfer defnyddwyr ar offer symudol iOS, Android yn ogystal â chyfrifiaduron MacOS a Linux mae Cysill ar Lein ar gael i’w… Darllen Rhagor »

Common Voice Cymraeg – angen dilysu erbyn 5 Rhagfyr

Mae’r swp data llais nesaf i gael ei ryddhau ganol mis Rhagfyr 2021. Rhagfyr 5ed yw’r dyddiad cau ar gyfer cyfrannu eich llais a dilysu recordiadau ar gyfer y swp yma. Y flaenoriaeth ar hyn o bryd yr hyn yw dilysu’r recordiadau. Mae 113 awr wedi eu dilysu ac 143 awr wedi eu recordio, felly… Darllen Rhagor »