Microsoft Office

Microsoft Office 2007 a Office 2003

Mae pecyn iaith llawn ar gael ar gyfer Microsoft Office 2003. Rhaid gosod Service Pack 2 yn gyntaf cyn bod y rhyngwyneb yn gweithio. Mae’r pecyn yn cynnwys cyfieithiad o haenau uchaf Word, Excel, Outlook a Powerpoint yn ogystal â gwirydd sillafu sy’n gweithio o fewn y rhaglenni yma i gyd.

Mae’r cyfieithiad yn llwyddiannus iawn ac yn darllen yn hawdd. Cyfieithiad gan gwmni Cymen a’r gwaith technegol ar Office 2003 gan Draig Technology. Offer gwirio sillafu a gramadeg gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor sydd hefyd yn gyfrifol am wirydd sillafu a gramadeg Cysgliad.

Service Pack 2 i’w gael drwy eich diweddaru awtomatig.

Microsoft Office XP

Mae gwirydd sillafu i’w gael gan Microsoft ar gyfer Office XP