Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil hunan-gynhaliol sy’n datblygu adnoddau ac offer iaith cyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg, yr ieithoedd Celtaidd eraill, a sefyllfaoedd amlieithog.

cwmwl_geiriau_glaswyrdd_fflatMae’r Uned yn gyfrifol am Cysgliad, y pecyn gwirio iaith a chasgliad o eiriaduron cynhwysfawr, ynghyd â nifer o offer gwirio iaith eraill.

Mae’n gwneud gwaith safoni termau, ac yn datblygu geiriaduron electronig ar sawl platfform gwahanol gan gynnwys ar ffurf gwefannau ac apiau.

Mae’n datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill, ac yn cynnal cronfeydd data enwau lleoedd ar y we.

Mae’r Uned hefyd yn datblygu deunyddiau dysgu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys gemau iaith.

Mae gan yr Uned gysylltiadau agos â nifer o adrannau academaidd yn y brifysgol, gan gynnwys Cymraeg, Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cymdeithaseg a Gwyddorau Gofal Iechyd. Yn 2016 bu’r Uned yn un o sefydlwyr Rhwydwaith Ymchwil Technoleg a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, sy’n dod ag ymchwilwyr yn y maes hwn at ei gilydd o fewn y brifysgol.

Mae ganddi hefyd gysylltiad agos â byd busnes a diwydiant, ac mae’n ymgymryd â chynlluniau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).