Demo Cyfieithu Peirianyddol

Isod ceir blwch cyfieithu peirianyddol er mwyn i chi roi cynnig ar ofyn i’r peiriant gyfieithu ar eich rhan. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi weld cryfderau a gwendidau’r peiriannau cyfieithu. Fel gyda phob peiriant cyfieithu, mae cywirdeb ac addasrwydd y cyfieithiad yn dibynnu llawer ar natur y deunydd roddwyd i’w gyfieithu, a pha mor debyg ydyw i’r deunydd yr hyfforddwyd y peiriant arno.

Ar hyn o bryd, ceir dewis o dri peiriant cyfieithu gwahanol, wedi’u hyfforddi ar dri corpws cyfochrog gwahanol, gan ddefnyddio dulliau ystadegol i greu cyfieithiadau, drwy system Moses SMT. Mae peiriant Cofnod y Cynulliad yn gweithio o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg, mae’r ddau beiriant arall yn gweithio o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unig ar hyn o bryd.

Nid yw cyfieithu peirianyddol yn dderbyniol i gymryd lle cyfieithwyr dynol lle mae’r cyfieithiad wedi’i fwriadu at ddefnydd swyddogol neu gyhoeddus.Mae’n dderbyniol defnyddio cyfieithu peirianyddol law yn llaw gydag ôl-gyfieithu dynol ac mae modd ymgorffori hyn o fewn y llif gwaith cof cyfieithu fel Trados, WordFast a CyfieithuCymru.

Argymhellir rhaglen barhaus o hyfforddiant i ddiweddaru gwybodaeth y cyfieithydd am ddatblygiadau technolegol newydd, fel rhan o raglen datblygiad proffesiynol y cyfieithydd, a bydd hyn yn gymorth i gael y gorau allan o’r dechnoleg ddiweddaraf.

Gweler rhagor yma : Nodyn Cyngor Ar Gyfieithu Peirianyddol ac Offer Cyfieithu ar gyfer Rheolwyr a Chomisiynwyr Cyfieithu
Rhagor am adnoddau cyfieithu : Cyfieithu – Cyflwyniad

Demo


Manylion y Peiriannau

Cofnod Y Cynulliad

Hyfforddwyd yn bennaf gyda data a grafwyd o wefan Cofnod Y Cynulliad. Aliniwyd 756894 segment cyfochrog sydd ar gael i’w llwytho i lawr o

http://techiaith.cymru/corpws/Moses/CofnodYCynulliad/CofnodYCynulliad.tar.gz

Data Hawlfraint y Goron.
Mae Cofnod y Trafodion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ddeunydd hawlfraint y Goron. Atgynhyrchir data o’r Cofnod o dan delerau canllaw polisi hawlfraint y Goron a gyhoeddir gan HMSO a’r Cynulliad Cenedlaethol.

Deddfwriaeth

Seiliedig ar ddata o www.legislation.gov.uk, hawlfraint y Goron, a ddarperir dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored fersiwn 3: http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/. Aliniwyd 243692 segment cyfochrog sydd ar gael i’w llwytho i lawr o

http://techiaith.cymru/corpws/Moses/Deddfwriaeth/Deddfwriaeth.tar.gz

Data Hawlfraint 2014 David Chan. Darperir y gwaith hwn dan y Creative Commons Attribution 4.0 International License: http://creativecommons.org/licenses/by/4.0/

Meddalwedd

Addas ar gyfer hwyluso cyfieithu meddalwedd i’r Gymraeg.

Seiliedig ar waith cyfieithu meddalwedd cod agored Mozilla Firefox, LibreOffice, WordPress a Linux Mint gan Rhoslyn Prys ac eraill. Mae cydnabyddiaeth o’r cyfieithiadau i’w cael ar wefannau cyfieithu’r rhaglenni:

  • Mozilla – https://www.mozilla.org
  • LibreOffice – https://www.documentfoundation.org
  • WordPress – https://www.wordpress.org
  • Linux Mint – https://www.linuxmint.org

Aliniwyd 47187 segment cyfochrog sydd ar gael i’w llwytho i lawr o:

http://techiaith.cymru/corpws/Moses/Meddalwedd/Meddalwedd.tar.gz

Darperir y gwaith hwn dan y drwydded General Public License : http://www.gnu.org/licenses/gpl.html