Volodymyr Antonovych

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Volodymyr Antonovych
Володимир Антонович. Volodymyr Antonovych.jpg
Yr Athro Volodymyr Antonovych.
Ganwyd6 Ionawr 1834 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Makhnivka Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 1908 Edit this on Wikidata
Kyiv Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
AddysgDoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Q56709687 Edit this on Wikidata
Galwedigaethanthropolegydd, hanesydd, archeolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Academi Gwyddoniaethau Rwsia
  • Prifysgol Ymerodrol Sant Vladimir Edit this on Wikidata
PriodKateryna Antonovych-Melnyk Edit this on Wikidata
PlantDmytro Antonovych Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Santes Anna, Ail Ddosbarth, Urdd Sant Anna, Ail Ddosbarth, Urdd Sant Vladimir, 3ydd Dosbarth Edit this on Wikidata
Llofnod
Volodymyr Antonovych Signature 1881.png

Hanesydd, archaeolegydd, ac ethnograffwr Wcreinaidd oedd Volodymyr Antonovych (Wcreineg: Володимир Антонович; 18 Ionawr [30 Ionawr yn yr Hen Ddull] 18348 Mawrth [21 Mawrth] 1908).

Ganed ef ym mhentref Makhnivka yn Llywodraethiaeth Kyiv, Ymerodraeth Rwsia, a leolir bellach yn Oblast Vinnytsia, Wcráin. Bonedd o dras Bwylaidd a oedd wedi colli eu cyfoeth oedd ei deulu. Graddiodd o gyfadran feddygaeth Prifysgol Kyiv ym 1855, a derbyniodd radd arall mewn hanes ac ietheg ym 1860. Wedi hynny, torrodd gysylltiadau â'r cylch Pwylaidd yn Kyiv, ac ymroddai ei hun i'r achos Wcreinaidd. O ran ei wleidyddiaeth, poblydd ydoedd, a bu'n bennaeth ar gyfrinfa'r Hromada yn Kyiv ac yn brif ideolegydd y mudiad khlopoman. Am ryw hanner can mlynedd, byddai'n weithgar yn ei gymuned ac yn ymgyrchu dros gydweithio rhwng y mudiad Wcreinaidd yn Kyiv ac yn Galisia i'r gorllewin.[1]

Yn ystod ei yrfa academaidd—a fyddai'n cynnwys 30 mlynedd yn athro hanes ym Mhrifysgol Kyiv—câi Antonovych ddylanwad pwysig ar ddatblygiad hanesyddiaeth Wcráin. O 1863 i 1880 gwasanaethodd yn brif olygydd Comisiwn Archaeo-ddaearyddol Kyiv, ac yn y swydd honno fe arolygai Arkhiv Iugo-Zapadnoi Rossii ("Archif De-Orllewin Rwsia"), gwaith mewn 15 cyfrol sydd yn cynnwys deunyddiau o hanes y rhanbarthau i orllewin Afon Dnieper o'r 16g i'r 18g. Fe'i penodwyd yn athro hanes ym 1870, a chyda sawl un o'i fyfyrwyr—yn eu plith Dmytro Bahalii, Mytrofan Dovnar-Zapolsky, Mykhailo Hrushevsky, Ivan Kamanin, ac Ivan Lynnychenko—sefydlodd yr Athro Antonovych fudiad ysgolheigaidd newydd a elwir ysgol hanesyddol Kyiv. Cyhoeddodd rhyw 300 o weithiau ysgolheigaidd yn ystod ei yrfa, gan gynnwys astudiaethau o Uchel Ddugiaeth Lithwania, hanes dinesig Kyiv o'r 14g i'r 16g, ymdriniaeth ag Undeb Brest a'i effaith ar yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, ymchwil i ddechreuad y bendefigaeth Wcreinaidd, a thraethodau ar hanes y Cosaciaid, yr haidamaky, a'r werin Wcreinaidd. Cychwynnodd hefyd ar brosiectau i astudio archaeoleg Wcráin mewn modd systematig, a lluniodd fapiau archaeolegol manwl o lywodraethiaethau Kyiv a Volhynia.[1]

Yn nechrau'r 1890au, cynorthwyodd Antonovych wrth sefydlu Cymdeithas Wyddonol Shevchenko. Ym 1893 cynigwyd iddo gadair athro newydd mewn hanes Wcráin ym Mhrifysgol Lviv, ond gwrthododd y cyfle oherwydd afiechyd; cefnogodd ei hen fyfyriwr, Mykhailo Hrushevsky, gael ei benodi i'r swydd yn ei le. Ymddeolodd o Brifysgol Kyiv ym 1900, a threuliodd ei flynyddoedd olaf yn ymchwilio i ddogfennau yn Archifau'r Fatican.[1] Bu farw Volodymyr Antonovych yn 74 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 25–26.