Holiadur Cydraddoldeb Ieithyddol Ewrop

Cais am gymwynas! Oes gyda chi farn ar y gefnogaeth ddigidol i gymunedau ieithyddol yn Ewrop, a’r Gymraeg yn benodol? Mae project Cydraddoldeb Ieithyddol Ewrop yn gofyn i chi gyfrannu at eu holiadur byr. Holiadur: https://european-language-equality.eu/language-surveys/ Diolch!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Signal Desktop Cymraeg

Mae Signal Desktop nawr ar gael yn Gymraeg. Mae modd gosod y rhaglen bwrdd gwaith ar gyfer Windows, MacOS a Linux – Debian o wefan Signal. Beth yw Signal? Rhaglen negesu a fideo gysylltu wedi ei amgryptio yw Signal. Mae’n bosib cyfathrebu gydag unigolion neu grwpiau, drwy destun neu fideo. Mae ganddo lefelau diogelwch uwch,… Parhau i ddarllen Signal Desktop Cymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel App, newyddion

WordPress 5.9 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y dull o olygu’r wegan gyfan a llywio drwy gyfrwng blociau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: WordPress 5.9 Adeiladwch y wefan rydych chi wedi bod eisiau ei chael erioed –… Parhau i ddarllen WordPress 5.9 Newydd

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Cysgliad am Ddim

Dyw hi ddim yn hawdd ysgrifennu Cymraeg cywir a dyna lle mae Cysgliad mor ddefnyddiol. Mae’r casgliad o raglenni – gwirydd sillafu, thesawrws a geiriadur ar gael am ddim ar gyfer defnyddwyr Windows.  Ar gyfer defnyddwyr ar offer symudol iOS, Android yn ogystal â chyfrifiaduron MacOS a Linux mae Cysill ar Lein ar gael i’w… Parhau i ddarllen Cysgliad am Ddim

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel App

S4C Clic yn darparu API o ddata rhaglenni

Wyddoch chi fod S4C Clic yn darparu API, ers sbel nawr? Mae’n cynnig ffordd hawdd o gael metadata am sioeau mewn fformat JSON. Dyma fanylion ar Hedyn ar sut i ddefnyddio’r API. Gadewch wybod os ydych chi’n creu unrhyw beth gyda fe, neu os oes gennych syniad. Er enghraifft mae’r bot Twitter newydd Clic Off… Parhau i ddarllen S4C Clic yn darparu API o ddata rhaglenni

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio , ,

LibreOffice 7.2 Newydd

LibreOffice 7.2 yw’r fersiwn mawr diweddaraf, mae’n cynnig gwell perfformiad, gwell cydnawsedd, a llawer o nodweddion newydd i roi hwb i’ch gwaith. Edrychwch ar y fideo isod am drosolwg – ac yna sgrolio i lawr am ragor o fanylion… Beth sydd i’w weld Yn LibreOffice 7.2, mae ffenestr llamlen newydd o dan y ddewislen Cymorth… Parhau i ddarllen LibreOffice 7.2 Newydd

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Joomla! 4.0

Mae Joomla! yn System Reoli Cynnwys poblogaidd ar gyfer creu gwefannau. Mae’r fersiwn Gymraeg yn becyn llawn o safbwynt y defnyddiwr a’r gweinyddwr.  Os nad ydych wedi defnyddio Joomla o’r blaen neu heb wneud ers sawl blwyddyn beth am roi cynnig arni? Rhyddhawyd pecyn Cymraeg Joomla 4 ar Awst 17eg, yr un diwrnod a Joomla… Parhau i ddarllen Joomla! 4.0

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion

HEDDIW: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021

Dw i wedi blogio ar wefan Mapio Cymru: Dyma gyflwyniad i brosiect Mapio Cymru sydd yn creu map o Gymru gydag enwau llefydd yn Gymraeg. Yn ystod y sesiwn bydd cyfleoedd i chwarae gyda’r map, darganfod enwau a lleoliadau, ac i gyfrannu gwybodaeth at y genhedlaeth nesaf o apiau mapiau Cymraeg. Mae’r gwaith yn berthnasol… Parhau i ddarllen HEDDIW: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021

WordPress 5.8 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd blociau a phatrymau gwefannau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: Tri Phwerdy Hanfodol Rheoli Teclynnau gyda Blociau Ar ôl misoedd o waith caled, mae grym blociau wedi dod i’r… Parhau i ddarllen WordPress 5.8 Newydd