Wicipedia:Y Caffi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Croeso i'r Caffi
Dyma'r lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol a gofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (tilde) (~~~~) ar y diwedd.
Coffi




Cwlwm Celtaidd 2022[golygu cod y dudalen]

Bydd Wikimedia UK a Wikimedia Deutschland yn trefnu Cynhadledd y Cwlwm Celtaidd eleni. I gynorthwyo gyda'r cynllunio, hoffem dderbyn eich adborth ar sut fath o weithdai fyddai'n ddefnyddiol i chi a'r gymuned cywici. Dyma arolwg byr, fydd ar ar agor tan 17 Ionawr. Diolch! Richard Nevell (sgwrs) 09:16, 14 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]

Bendigedig Richard! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:27, 14 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]
Hi, dwi newydd weld yr hysbysiad yma. Dwi'n gweithio yn bennaf efo wikipedia Cernyweg. Fedra i ddim cael hyd i unrhyw hysbysiad am y gynhadledd ar dudalenni caffis/tafarndai yn yr un o'r wikipedias Celtaidd eraill. Ga i ofyn faint o gyfranogi rydych yn disgwyl gan golygyddion y cymunedau hynny? Brwynog (sgwrs) 17:56, 7 Mawrth 2022 (UTC)[Ateb]

...

Diweddaru lluniau[golygu cod y dudalen]

Un peth dwi'n sylw o bryd i bryd yw'r lluniau a ddefnyddir ar dudalenau. Yn amlwg mae trwydded yn cyfyngu ar be sydd ar gael - e.e. defnyddio llun sydd eisoes ar Wikimedia neu Wikipedia English, neu Geograph.

Oes modd yma ac acw awgrymu tudalenau sydd angen llun 'gwell'?

Felly gall rhywun sydd awydd mynd am dro gynnwys cymryd llun gwell i dudalen fel rhan ohoni.


Hwyl, Huw

Yn sicr. Pob blwyddyn bydd Wici rhyngwladol yn creu cystadlaethau byd eang i geisio cael lluniau amgenach a gwell. Yn ystod y cyfnod clo mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi creu cystadlaethau i greu lluniau lleol amgen yng Nghymru. Un o'r pethau rwy'n gweld ei angen yng Nghymru yw lluniau o gerrig beddau enwogion. Mae'r ffaith bod llun ar gael ddim yn rhwystr i'w cyfnewid am un gwell, ac os wyt yn gweld llun gwael, does dim oll yn bod a gwneud cais am lun gwell, yma neu ar y cyfryngau cymdeithasol ehangach. AlwynapHuw (sgwrs) 06:13, 25 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]
Diolch am ymateb.
Dylwn i fod yn fwy eglur yn fy neges gwreiddiol: oes posib creu restr o luniau a all cael eu diweddaru? Gan gychwyn gyda beddfeini, pa rai sydd eu hangen fel blaenoriaeth?
Hwyl,
Huw Huw Waters (sgwrs) 16:52, 25 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]
Haia Huw! Beth am greu categori Categori:Erthyglau sydd angen delwedd neu ddelweddau gwell? Efallai mai'r flaenoriaeth fyddai erthygl heb lun o gwbwl? Efallai y gellid creu rhestr o'r rhain yn otomatig. Ffordd arall ydy mynd at grwp (ee yr Eglwys yng Nghymru, Cymdeithas Ffynhonnau Cymru) a gofyn iddyn nhw roi eu lluniau ar Comin? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:05, 26 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]

Castell / Château[golygu cod y dudalen]

Heddiw crëwyd dwy erthygl newydd gan JeanGree, sef Castell Chaban a Castell Fenelon. Mae angen ychydig o waith arnyn nhw, ac roeddwn yn paratoi i wneud hynny. Ond mae yna broblem. Yn fy marn i, dylai fod gan yr erthyglau hyn y teitlau "Château de Chaban" a "Château de Fénelon". Mae gan y gair Ffrangeg château ystyr ehangach na'r "castell": mae'n cynnwys adeiladau y byddem ni'n eu galw'n balasau, plastai neu winllannoedd hyd yn oed. Mae gennym ni nifer o erthyglau sydd ag enwau o'r math hwn eisoes, e.g. Château de Castelnaud. Ond mae gennym ni bethau fel Castell Chinon hefyd. Rwy'n awgrymu defnyddio'r fformat " "Château de X" amdanyn nhw i gyd. (Y dewis arall fyddai defnyddio "Castell X" bob tro.) A oes gwrthwynebiadau? --Craigysgafn (sgwrs) 21:14, 25 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]

Cyfieithiadau peirianyddol ydy'r ddwy erthygl o'r rhagarweiniad Ffrangeg i'r erthyglau ar y ddwy Château. Mae 'na arfer (rheol o bosib), ein bod yn defnyddio enwau llefydd yn yr iaith frodorol oni bai bod enw Cymraeg cyffredin i'r lle: Llundain, Efrog Newydd, San Steffan, Côr y Cewri ac ati, felly Château sy'n gywir o ran ein harfer ni. Erthyglau eithaf ber yn y gwreiddiol efo orielau o luniau, digon diddorol i'w cynnwys yma. Mae angen gwybodaeth o'r ddwy iaith, wrth gwrs, i gyfieithu erthyglau. Os nad wyt ti am eu cyfieithu neu'u haddasu, rwy'n ddigon bodlon i grafu pen yn ôl i CSE gradd 2, 1974 i'w gwella. AlwynapHuw (sgwrs) 02:10, 26 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]
Cytuno efo'r Ffrangeg. Mae'n rhaid fod gynnoch chi fynedd Job hogia, eu dileu nhw faswn i, gan nad yw'r 'golygydd' wedi parchu'r hanfodion ee dim categori, dim cyfeiriadaeth, dim gwybodlen, a dim parch at ein harddull arferol! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:01, 26 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]
Diolch gyfeillion! Iawn, byddaf i'n mynd ati i gwneud y gwaith caib a rhaw, sef newid y teitlau, cyflenwi gwybodlenni a chategoriau ayyb. Pe baet ti'n bwrw llygad drostyn nhw wedyn, Alwyn, byddai hynny'n wych. --Craigysgafn (sgwrs) 21:57, 26 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]

Alwyn ar Radio Cymru[golygu cod y dudalen]

Newydd glywed cyfweliad gwych iawn ar raglen Aled Llanbedrog gydag Alwyn ap Huw yn cael ei holi am ei waith ar Wicidestun. Ardderchog iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:58, 26 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]


Gwybodleni Data[golygu cod y dudalen]

Rwyf yn ailgydio yn y WiciBrosiect Gemau'r Gymanwlad wedi amser maith i ffwrdd o Wici am amryw resymau. Oes unrhyw un yn gallu egluro pwrpas y gwybodlenau data cyffredinol sydd wedi ymddangos ar pob tudalen. Mae bron pob un yn restr uniaith Saesneg ac yn edrych i mi fel "cut and paste" o'r ochr Saesneg heb fath o ystyriaeth os byddent yn gweithio yn y Gymraeg. Diolch Blogdroed (sgwrs) 16:15, 30 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]

Gwaith ar y gweill yw'r gwybodlennau. Maen nhw'n casglu gwybodaeth o Wikidata yn hytrach nag Enwiki. Os yw deunydd Saesneg yn ymddangos y rheswm yw nad oes neb eto wedi rhoi'r fersiwn Cymraeg cyfatebol ar Wikidata. Rwy'n ceisio gwneud hyn hyd eithaf fy ngallu pryd bynnag y byddaf yn sylwi arnyn nhw. (Gallwch glicio ar y symbol pensil wrth ymyl y term dan sylw a'i olygu.) Yn sicr, ar hyn o bryd mae crin nifer o wybodlennau sy'n braidd yn denau yn y wybodaeth a gyflwynir ganddyn nhw, ond yn y tymor hir rwy'n gobeithio y byddan nhw'n datblygu i fod yn rhywbeth defnyddiol. --Craigysgafn (sgwrs) 17:50, 30 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]
Yn fy marn i, mae nhw'n anymarferol o hir ac yn cymryd i ffwrdd o'r erthyglau gan nad ydyn nhw yn ychwanegu unrhywbeth. Er engraifft, gyda Gemau'r Gymanwlad 2014 mae'n gwthio'r wybodeln sydd efo gwybodaeth ddefnyddiol (yn Gymraeg) ymhell i lawr y dudalen. Oni fyddai'n well ymestyn yr wybodlen Gymraeg sydd yno yn barod? Blogdroed (sgwrs) 18:14, 30 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]
Yn wir, gallaf i weld pam y byddech yn anhapus ynghylch y dudalen honno. Rwyf wedi gwneud dau beth i wella'r sefyllfa ychydig: cyfnewid y ddwy wybodlen (roedd yr un gwreiddiol yn llawer gwell), a gosod y switsh "suppressfield" yn y wybodlen Wicidata i hepgor y rhestr hir wirion honno. Ond rwy'n cytuno, dyw'r blwch hwn ddim yn ychwanegu llawer iawn at werth y dudalen ar hyn o bryd.--Craigysgafn (sgwrs) 20:21, 30 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]
Haia, a chroeso'n ol! Sgin ti enghraifft o wybodlen WD sy'n 'rhestr uniaith Saesneg'? Mae'r golygyddion sy'n eu hychwanegu (bob yn un ag un, gyda llaw) yn fod i'w gwiro, a chyfieithu unrhyw Saesneg ar Wicidata. Tydy hyn ddim yn cymryd dim mwy o amser na chyfieithu'r gwybodleni hen ffasiwn a fewnforiwyd o en. Mae llawer o erthyglau am wleidyddion a chwaraewyr HEB y gwybodleni WD yma, gan nad oes digon o wybodaeth (ee dillad y tim) ar WD. Felly yr hen wybodlen statig a fewnforiwyd o enwici flynyddoedd yn ol sy'n dal ar yr erthyglau hyn, a'r dillad heb eu diweddaru ers blynyddoedd. Mae hyn yn biti, oherwydd gogoniant gwybodleni WD ydy eu bod yn fyw, yn newid wrth i wybodaeth newid, yn otomatig. Cytuno efo Craigysgafn: mewn ambell faes, does dim angen rhoi'r wybodlen newydd, neu ddefnyddio "suppressfield" i eoli beth sy'n ymddangos. Gweler y ddogfen / cyfarwyddiadau ar y 3 Nodyn WD am y manylion: Nodyn:Pethau, Nodyn:Person a Nodyn:Lle. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:09, 31 Ionawr 2022 (UTC)[Ateb]
Mae Gemau Olympaidd yr Haf 1948 yn enghraifft dda o restr hirfaith (a dau lun am ryw reswm!) Blogdroed (sgwrs) 17:48, 5 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]
Fel mae'r cyfawyddiadau'n nodi (gw: Nodyn:Pethau): mae suppressfields= * yn atal rhan o'r wybodlen rhag ymddangos... Yma, yn Gemau Olympaidd yr Haf 1948, dau air oedd angen eu hychwanegu, sef yn_cynnwys; dw i wedi eu hychwanegu. Dylai'r golygydd fod wedi cyfieithu'r enwau ar Wicidata, neu eu hatal rhag ymddangos fel hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:01, 5 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]
Dwi ddim yn meddwl mod i di deall y cyfarwyddiadau na sut i'w cysylltu i Wikidata - dwi'n meddwl mod i'n bod yn hollol dwp! Gweler Gemau Olympaidd yr Haf 1924 Blogdroed ... GOL. Mae 1920 a 1924 wedi eu cloi ar Wikidata! (sgwrs) 22:31, 5 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]
Does dim angen newid Wicidata ei hun. Dim ond i atal y dudalen rhag cydio ym mhob manylyn bach gan Wicidata. Ar hyn o bryd mae tudalen cod Gemau Olympaidd yr Haf 1924 yn dechrau â {{Pethau| suppressfields= | fetchwikidata = ALL }}. Rhaid ichi newid hyn i {{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= gwladwriaeth yn_cynnwys}} a fydd y pethau dydych chi ddim eu heisiau yn diflannu. --Craigysgafn (sgwrs) 11:28, 6 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]
Diolch! Blogdroed (sgwrs) 13:45, 7 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]

Sut i gysylltu tudalen ar WP efo tudalen WD? (Sylw: WD sy'n cysylltu'r holl ieithoedd efo'i gilydd). Ti'n holi am Gemau Olympaidd yr Haf 1924:

  1. Ar ol ei chreu, mae'n rhaid dweud wrth WD am fodolaeth yr erthygl. Rol i ti greu'r erthygl Gemau Olympaidd yr Haf 1924, fe aeth @Dogfennydd: i Wicidata (WD); yno ffeiniodd yr dudalen gyfatebiol yn yr ieithoedd eraill (mi faswn i'n chwilio yn y Saesneg am 1924 Summer Olympics ar Wicidata.
  2. Unwaith ti yn y dudalen honno, mae angen ychwanegu pen a chwnffon. Pen = yr enw Cymraeg. Mi wnes i ei adio yn fama o dan Label. Cwnffon = gwaelod yr erthygl, mae rhestr o gysylltiadau i erthyglau WP (Wicipedia); gelli ychwanegu enw'r erthygl Gymraeg yma fel y gwnaeth Dogfennydd.
  3. Dos nol i'r erthygl Gym ar Wicipedia i wiro fod y wybodlen yn edrych yn iawn. Os ydy - panad! Os nad, gelli ei newid! Os oes rhestr hir, wirion, hyll, yna gelli ei rhwystro rhag ymddangos yn y modd mae Craigysgafn yn ei nodi uchod. Os oes wybodlen well ar y Wicipedia Saesneg, yna defnyddia honno, ond bydd angen cyfieithu pob gair ohoni!

Sorri fod hyn yn gymhleth, mae angen cyfarwyddiadau gwell, a mi ai ati cyn hir i wneud hynny. Be sydd yn dda am gwybodlenni wicidata, Blogdroed, ydy fod pob elfen 'da ni'n wedi'i gyfieithu ar Wicidata, dros y blynyddoedd, yn dal i fod yno, felly mae'r rhan fwyaf o'r gwybodlenni yn Gymraeg yn poblogi ei hunain, yn otomatig! Heb orfod cyfieithu dim! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:59, 7 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]

Ia, nes i fynd i Wikidata ac nes i ychwanegu y dudalen Gymraeg i Gemau Olympaidd yr Hasf 1916 ond am ryw reswm mae tudalenau Gemau 1920 a 1924 wedi eu cloi. GOL - yn anffodus mae hyn yn wir am Gemau 1904 hefyd! Blogdroed (sgwrs) 14:34, 7 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]

Testunau cyfansawdd ar Wicidestun[golygu cod y dudalen]

Mae Wicidestun Ffrangeg, yn cyhoeddi nifer o'i lyfrau dwywaith. Unwaith yn y ffordd draddodiadol efo tudalen trawsgrifio ar gyfer pob pennod / cerdd / erthygl etc ac wedyn eilwaith efo'r llyfr cyfan wedi ei drawsgrifio ar un tudalen. Eu rheswm dros wneud hyn yw er mwyn galluogi chwiliad o fewn llyfr yn fwy hylaw. Er enghraifft os ydwyf yn cofio bod cerdd am "bronfraith" yn Nhelynegion Maes a Môr, heb gofio teitl y gerdd, gallwn fynd at y testun cyfansawdd un tudalen a chwilio am y gair bronfraith trwy ddefnyddio Ctrl/F i gael hyd i'r gerdd yn haws na defnyddio'r chwiliad o bopeth sydd ar safle Wicidestun. Rwyf wedi gwneud arbrawf o'r ymarfer Ffrangeg ar Wicidestun Cymraeg efo testunau cyfansawdd o bedwar llyfr s:Categori:Testunau cyfansawdd. Hoffwn wybod barn eraill am werth y fath ymarfer cyn bwrw ymlaen i wneud tudalennau tebyg ar gyfer gweddill y llyfrau rwyf wedi trawsgrifio. AlwynapHuw (sgwrs) 17:39, 9 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]

Cytuno'n llwyr! Mae dewis o ddwy drefn / dau fformat yn llawer gwell! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:58, 10 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]

Colli gwaith[golygu cod y dudalen]

Dwi newydd dreulio dwy awr yn golygu tudalen Gemau Olympaidd yr Haf 1936 ac wrth pwyso "cyhoeddi newidiadau" fe ges i'r neges yma:

Request from - via cp3058.esams.wmnet, ATS/8.0.8 Error: 502, Next Hop Connection Failed at 2022-02-12 20:32:01 GMT

Dwi'n ama'n gryf fod modd canfod yr holl waith eto ... ond dim ond dweud yma rhag ofn! Blogdroed (sgwrs) 20:38, 12 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]

Cydymdeimlo'n llwyr a thi! Wedi digwydd i minnau hefyd. Mae'r Cymhorthydd Cyfieithu'n cadw popeth pob rhyw ddeg eiliad, ac yn gweithio'n dda! Fel arall, mae gen i ddogfen syml Notepad ar yr ochr i gopio popeth pob rhyw 5 munud! Ond digon hawdd dweud hyn rwan, wedi'r digwyddiad! O ia, cyn cyhoeddi, dw i wastad yn CTR A ac yna'n copio popeth rhag ofn fod rhywun arall wrthi ar yr un pryd! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:51, 14 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]

Wici Y Cyfryngau Cymraeg[golygu cod y dudalen]

Tynnodd Aaron WiciMon fy sylw at y wefan yma sydd ar drwydded agored. Oes rhywun yn gwybod rhywbeth amdani? Addas ar gyfer mewnforio stwff i wici bach ni? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:18, 15 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]

Ymgyrch Iechyd Meddwl[golygu cod y dudalen]

@Llywelyn2000, MathWilliams9, Lesbardd, Craigysgafn, Oergell, Cymrodor, Deb:@AlwynapHuw, Adda'r Yw, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:@Duncan Brown, Deri Tomos, Dafyddt, Heulfryn, Bobol Bach:

Helo pawb!

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiect bychan tan ddiwedd Mawrth er mwyn gwella ein cynnwys ar Iechyd meddwl. Mi fydd Aaron a Menter Iaith Môn yn arwain ar gyfres o ddigwyddiadau yn ysgolion a byddaf yn trefni Cyfieithathon ar-lein. Bydd e'n wych petai'r holl gymuned yn cymryd rhan trwy helpu i gyfieithu/creu erthyglau newydd am y maes pwysig yma dros y wythnosau nesaf. Gweler isod, rhestr o erthyglau sydd i angen - ond mae croeso i chi ychwanegu at hyn hefyd. Jason.nlw (sgwrs) 13:14, 16 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]

Erthyglau newydd
Cyfoethogi erthyglau


Gwych! Mi gymerai olwg ar rai ohonyn nhw cyn caniad y ceiliog, fory'r bore, os byw ac iach! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:42, 17 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]
Ie, byddaf yn cyfrannu hefyd - da cael rhyw fath o darged a thema. Dwi am orffen cwpl o bostiadau ar symbylwyr addysg Gymraeg yr 20g cynnar yn gyntaf, Siôn J Stefanik (sgwrs) 22.22 17 CHwefror 2022 (UTC)
Dw i di rhyw gychwyn, Jason. Prun ydy'r gorau gen ti: erthyglau cyfoethog (a llai ohonyn nhw!) neu lawer o erthyglau llai? Hefyd: be di'r daflen amser i hyn? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:46, 19 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]
Haia @Llywelyn2000 a @Stefanik. Diolch am y diddordeb yn hyn! Mae gyda ni tan ddiwedd Mawrth i greu tua 30 erthygl newydd felly does dim pwysau mawr i greu llwyth o erthyglau. Felly mae'n lan i chi faint o amser si'n mynd mewn i bob un. Cywired yw'r peth pwysicaf. Diolch eto! Jason.nlw (sgwrs) 08:55, 21 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]
Bore da pawb. Rwy'n cynnal Cyfieithathon bach bore efo Prifysgol Aberystwyth i gyfieithau rhai o'r erthyglau uchod. Byddaf yn gwirio pob erthygl newydd yn ystod y dydd. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 08:54, 28 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]

Teitlau ffilm, llyfrau Almaeneg ayb[golygu cod y dudalen]

Dw i newydd newid teitl ffilm a gyhoeddwyd yn yr Almaeneg i'r Almaeneg! Roedd rhyw wag wedi rhoi enw Saesneg i Aguirre, der Zorn Gottes! Mi fum yn ystyried ei drosi i'r Gymraeg, a fasa ddim gwahaniaeth gen i os oes rhywun yn dymuno ei newid i hynny. Angen polisi bychan ar hyn dw i'n meddwl. Dyma sy'n mynd drwy fy meddwl i:

  • Os mai Saesneg yw iaith y cyfrwng, yna (gan ein bod yn ddwyieithog) ei gadw yn yr iaith frodorol (Saesneg).
  • Os yw'r cyfrwng mewn iaith arall (hy nid cy nag en) yna gellir dewis naill ai'r iaith frodorol neu'r Gymraeg fel teitl y llyfr, albwm, ffilm...

Unrhyw farn neu opsiwn arall? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:42, 17 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]

Rwy’n cytuno mai Aguirre, der Zorn Gottes yw’r ateb cywir yn yr achos hwn. Pryd bynnag y mae'n ymarferol, dylem ni ddefnyddio'r iaith wreiddiol ar gyfer teitl neu enw priodol yn hytrach na fersiwn wedi'i Seisnigeiddio. Ond mi allaf i weld hefyd ei bod yn anodd weithiau osgoi defnyddio fersiwn cyfarwydd o deitl yn Saesneg yn hytrach nag un yn yr iaith wreiddiol sy'n anghyfarwydd. Er engraifft, dw i newydd gymryd golwg ar y ffordd mae ffilmiau Studio Ghibli yn cael eu trin yma. Braidd yn fratiog. Mae gennym ni Tonari no Totoro yn hytrach na My Neighbour Totoro, sy'n Peth Da yn fy marn i, er braidd yn syndod. Ar y llaw arall, mae gennym Howl's Moving Castle yn hytrach na Hauru no Ugoku Shiro – dim syndod o gwbl. Byddai'n braf pe bai popeth yn gyson, ond mae'r byd yn dipyn o lanast, ac weithiau mae'n rhaid i Wicipedia ddal drych i fyny i'r llanast hwnnw. Yr hyn dw i'n meddwl fyddai'n wallgof fyddai dyfeisio teitlau Cymraeg sydd erioed wedi cael eu defnyddio yn y byd go iawn – Totoro fy Nghymydog, Castell symudol Hauru, ayyb. Dyma fagl y mae ein defnyddwyr yn syrthio iddo o bryd i'w gilydd. --Craigysgafn (sgwrs) 00:07, 18 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]
100% - cytuno!
Gallem gynnwys brawddeg neu ddwy at yr uchod:
Sylwer na ddylid cyfieithu teitlau cyfryngau Saesneg i'r Gymraeg; gellir hefyd, defnyddio fersiwn cyfarwydd o deitl yn Saesneg os yw'n un amlwg, cyfarwydd, yn hytrach na'r gwreiddiol, anghyfarwydd.
Os yw'r cyfieithiad yn un nodedig, ee Dan y Wenallt, yna byddai'n dda cael dwy erthygl, fel gydag Under Milk Wood.
Neu fedri di wella ar hyn Craigysgafn? Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:51, 18 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]
Na fedraf. Mae hynny'n swnio'n iawn i mi! --Craigysgafn (sgwrs) 22:41, 18 Chwefror 2022 (UTC)[Ateb]