Firefox Browser

Cael y porwr sy'n diogelu'r hyn sy'n bwysig

Dim polisïau preifatrwydd amheus na drysau cefn i hysbysebwyr. Porwr cyflym iawn sydd ddim yn eich trin fel rhywbeth i'w werthu.

Gwnewch beth bynnag hoffwch chi ar-lein. D'yw
Firefox Browser ddim yn eich gwylio.

Sut mae Firefox yn cymharu â phorwyr eraill

Cymrwch fantais o'r holl gyflymder ac offer sydd ar gael heb unrhyw dorri ar eich preifatrwydd. Mae Firefox Browser yn casglu prin dim data amdanoch chi, dydyn ni ddim hyd yn oed yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost i'w lwytho i lawr. Mae hynny oherwydd yn wahanol i borwyr eraill, nid oes gennym unrhyw reswm ariannol i'ch dilyn o amgylch y we.

Sut rydyn ni'n cymharu â phorwyr eraill

Cymharu Firefox â:
Firefox Chrome Microsoft Edge Safari
Wedi ei ragosod i rwystro cwcis tracio trydydd parti Iawn Na Iawn Iawn
Yn rhwystro awtochwarae Iawn Iawn Na Iawn
Yn rhwystro tracwyr cymdeithasol Iawn Na Iawn Iawn
Argaeledd yr OS Iawn Iawn Na Na
Teclyn llun sgrin o fewn y porwr Iawn Iawn Iawn Na
Prif gyfrinair Iawn Na Iawn Na

Rydyn ni'n rhwystro tracwyr hysbysebion. Rydych chi'n crwydro'r rhyngrwyd yn gynt.

Mae hysbysebion yn blino pawb ac yn gwneud i dudalennau gwe lwytho'n arafach, tra bod eu tracwyr yn gwylio pob symudiad rydych chi'n ei wneud ar-lein. Mae'r Firefox Browser yn rhwystro'r mwyafrif o dracwyr yn awtomatig, felly does dim angen i chi fynd i'ch gosodiadau diogelwch.

Mae Firefox ar gyfer pawb

Ar gael mewn dros 90 o ieithoedd, ac yn gweithio ar gyfrifiaduron Windows, Mac a Linux, mae Firefox yn gweithio ar beth bynnag rydych chi'n ei ddefnyddio neu ble rydych chi. Gwnewch yn siŵr fod eich system weithredu yn gyfredol am y profiad gorau.

Gwiriwch ofynion y system

Rhowch Firefox ar eich holl ddyfeisiau

Ewch â'ch preifatrwydd gyda chi i bobman. Mae gan Porwyr Firefox Browser, iOS ac Android yr un gosodiadau preifatrwydd cryf i rwystro tracwyr rhag eich dilyn o amgylch y we, lle bynnag rydych chi.

Gwneud popeth gyda Firefox

Chwilio'n glyfrach ac yn gynt

  • Chwilio o'r bar cyfeiriad
  • Dewis o beiriannau chwilio
  • Awgrymiadau chwilio clyfar
  • Nodau tudalen, hanes a thab agored o fewn canlyniadau

Cynyddwch eich gweithgaredd

  • Yn gweithio gyda chynnyrch Google
  • Teclyn llun sgrin mewnol
  • Rheolwr nodau tudalen
  • Awto gynnig URLau
  • Cydweddu ar draws dyfeisiau
  • Modd darllen
  • Gwirio sillafu
  • Pinio Tabiau

Ffrydio, rhannu a chwarae

  • Rhwystro Awtochwarae fideo a sain
  • Llun-mewn-Llun
  • Cynnwys wedi'i guradu ar dab newydd
  • Rhannu dolenni

Diogelu eich preifatrwydd

  • Rhwystro Cwcis Trydydd Parti
  • Rhwystro Bysbrintwyr
  • Rhwystro Cryptogloddwyr
  • Modd Pori Preifat
  • Adroddiad diogelu personol

Diogelwch eich manylion personol

  • Rhybuddion tor-gwefannau
  • Rheolwr cyfrinair mewnol
  • Clirio'r hanes
  • Awtolanw ffurflenni
  • Diweddariadau awtomatig

Cyfaddasu eich porwr

  • Themâu
  • Modd tywyll
  • Llyfrgell o estyniadau
  • Addasu gosodiadau'r bar chwilio
  • Newid cynllun tab newydd

Gwnewch eich hun yn gartrefol yn eich Firefox

  • Estyniadau ar gyfer pob diddordeb

    O ddiogelwch i newyddion i gemau, mae yna estyniad ar gyfer pawb. Ychwanegwch gynifer ag y dymunwch nes bod eich porwr yn iawn i chi.

  • Newid eich edrychiad

    Mynd o'r modd golau i'r modd tywyll yn dibynnu ar eich hwyliau neu'ch dewis, neu fywiogi pethau gyda thema arfer (uncorn enfys, efallai).

  • Addasu eich gosodiadau

    Does dim angen bodloni. Gallwch newid y dudalen tab newydd, bar chwilio, nodau tudalen a mwy i grwydro'r rhyngrwyd yn y ffordd rydych chi ei eisiau.

Gyda chefnogaeth y corff nid-er-elw sy'n rhoi pobl yn gyntaf

Yn herio'r sefydliad er 1998

Crëwyd Firefox gan Mozilla fel dewis arall cyflymach, mwy preifat i borwyr fel Internet Explorer, a nawr Chrome. Heddiw, mae ein cwmni sy'n cael ei yrru gan genhadaeth a'n cymuned wirfoddol yn parhau i roi eich preifatrwydd o flaen pob dim.

Eich preifatrwydd yn flaenoriaeth

Wrth i'r rhyngrwyd dyfu a newid, mae Firefox yn parhau i ganolbwyntio ar eich hawl i breifatrwydd - rydyn ni'n ei alw'n Addewid Data Personol: Cymerwch lai. Cadwch e'n ddiogel. Dim cyfrinachau. Mae eich data, eich gweithgaredd gwe, eich bywyd ar-lein wedi'i warchod gyda Firefox.

Cadwch eich holl hoff nodweddion porwr - a darganfod rhai newydd.

Yn gweithio gyda chynnyrch Google

Mae'ch holl hoff offer Google (fel Gmail a Docs) yn gweithio'n ddi-dor yn y porwr Firefox Browser.

Facebook Container

Llwythwch i lawr yr estyniad porwr hwn i atal Facebook (ac Instagram) rhag eich tracio o amgylch y we.

Cydweddwch eich dyfeisiau

Mae Firefox ar gael ar eich holl ddyfeisiau; ewch â'ch tabiau, hanes a nodau tudalen gyda chi. Y cyfan sydd ei angen yw cyfrif Firefox.

Lluniau Sgrin

Cipiwch ddelwedd cydraniad uchel o unrhyw beth ar-lein gyda'n teclyn llun sgrin wedi'i adeiladu o fewn y porwr

Diogelwch Uwch Rhag Tracio

Mae Firefox yn rhwystro'n awtomatig llawer o dracwyr trydydd parti rhag casglu a gwerthu eich gweithgaredd gwe.

Llun-mewn-Llun

O wylio tiwtorial gwe i gadw llygad ar eich hoff dîm, mae eich fideo yn eich dilyn wrth i chi amldasgio.

Cwestiynau? Mae gan Cymorth Mozilla yr atebion.