Asia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Taj Mahal in March 2004.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolcyfandir, part of the world Edit this on Wikidata
MathEwrasia Edit this on Wikidata
Rhan oY Ddaear, Ewrasia, Affrica-Ewrasia, Ostfeste Edit this on Wikidata
Yn cynnwysDwyrain Asia, De-ddwyrain Asia, Canolbarth Asia, De Asia, Y Dwyrain Canol, Gwladwriaeth Palesteina, Gogledd Asia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o'r byd yn dangos Asia
Delwedd cyfansawdd lloeren o Asia

Gyda arwynebedd tir o 44.4 miliwn km² a phoblogaeth o tua 3.4 biliwn, Asia yw'r cyfandir mwyaf yn y byd. Fe'i diffinir yn draddodiadol fel y rhan o ehangdir Affrica-Ewrasia sy'n gorwedd i'r dwyrain o Gamlas Suez a Mynyddoedd yr Ural, ac i'r de o Fynyddoedd y Cawcasws, Môr Caspia a'r Môr Du. Mae tua 60% o boblogaeth ddynol y byd yn byw yn Asia. Dim ond 2% o'r boblogaeth honno sydd yn byw yn hanner gogleddol a mewndirol y cyfandir, sef Siberia, Mongolia, Casachstan, Xinjiang, Tibet, Qinghai, gorllewin Wsbecistan a Tyrcmenistan); mae'r 98% arall yn byw yn hanner arall y cyfandir, i'r de.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r gair Asia o'r gair Groeg Ασία (Asia). Digwydd y gair am y tro cyntaf yng ngwaith yr hanesydd Groeg Herodotus (c. 440 CC), sy'n cyfeirio at Asia Leiaf ac Asia wrth drafod Rhyfeloedd Groeg a Phersia a'r Ymerodraeth Bersiaidd.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Daearyddiaeth Asia

Mae Asia yn cynnwys tua thraean o dir y byd (44.4 miliwn km²). Mae ei hyd eithaf o'r gorllewin i'r dwyrain yn 11,000 km, ac yn 8,500 km o'r gogledd i'r de. Mae'r rhan fwyaf o Asia, o bell ffordd, yn gorwedd yn uwch na'r Cyhydedd yn hemisffer y gogledd. Dim ond rhai rhannau o Dde-ddwyrain Asia ac isgyfandir India sydd i'r de o'r Cyhydedd.

Mae'r cyfandir yn cyffwrdd â'r Môr Arctig yn y gogledd, y Cefnfor Tawel yn y dwyrain a Chefnfor India yn y de. Yn y gorllewin mae Asia yn ffinio ag Ewrop, y Môr Canoldir, rhan ddwyreiniol Gogledd Affrica a'r Môr Coch. Mae Môr Bering, sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel, yn gwahanu Siberia yng ngogledd-ddwyrain Asia a Gogledd America. Gorynys Arabia, India, Gorynys Malaya, Corea a Kamchatka yw'r mwyaf a'r pwysicaf o'r gorynysoedd niferus ar y cyfandir. Oddi ar arfordir y gogledd-ddwyrain ceir ynys Sachalin, ynysoedd Japan a Taiwan.

Yn is i lawr mae De-ddwyrain Asia yn cynnwys nifer fawr iawn o ynysoedd; y pwysicaf ohonynt yw ynysoedd Luzon a Mindanao yn y Y Philipinau, Borneo, yr ynysoedd Indonesaidd Sumatra, Java a Sulawesi, Timor a Gini Newydd. Yr ynysoedd pwysicaf oddi ar arfordir de Asia yw Ceylon (Sri Lanca), y Maldives ac Ynysoedd Andaman. Mae'r moroedd llai sy'n perthyn i Asia yn cynnwys y Môr Coch rhwng Arabia a gogledd-ddwyrain Affrica, Môr Arabia rhwng dwyrain Arabia a gorllewin India, Bae Bengal rhwng dwyrain India a Myanmar, Môr De Tsieina, Môr Dwyrain Tsieina rhwng Taiwan a Japan, y Môr Melyn rhwng gogledd-ddwyrain Tsieina a Corea, Môr Japan rhwng Japan a Manchuria, a Môr Okhotsk rhwng Siberia a Kamchatka.

Mae cadwyni mynydd pwysicaf Asia yn cynnwys Mynyddoedd Cawcasws, yr Hindu Kush, y Karakoram, Mynyddoedd Pamir, y Tien Shan, y Kunlun Shan a'r Himalaya ei hun sy'n cynnwys Everest, mynydd uchaf y byd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Hanes Asia

Crefyddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Asia yn gartref i'r rhan fwyaf o grefyddau mawr y byd ers canrifoedd lawer. Mae Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam yn tarddu o'r un ardal yng ngorllewin Asia. India yw crud Hindŵaeth, Siciaeth a Bwdiaeth, a daw Taoaeth a Chonffiwsiaeth o Tsieina. Yn y gogledd Arctaidd Shamaniaeth yw'r grefydd frodorol ac yn Japan mae Shinto yn cydfyw â Bwdiaeth.

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn nhermau cynnyrch mewnwladol crynswth (PPP), ceir yr economi genedlaethol fwyaf yn Asia yn Ngweriniaeth Pobl Tsieina (GPCh). Dros y degawd diweddaf, mae economïau Tsieina ac India wedi tyfu'n gyflym iawn, gyda'r ddwy wlad yn mwynhau cyfradd cynydd blynyddol cyfartalog o dros 7%. GPCh yw'r economi ail fwyaf yn y byd ar ôl yr Unol Daleithiau, ac mae'n cael ei dilyn gan Japan ac India fel economïau trydydd a phedwaredd mwyaf y byd yn ôl eu trefn (yn nesaf daw economïau'r gwledydd Ewropeaidd, er enghraifft yr Almaen, DU, Ffrainc a'r Eidal).

Economi Asia
Poblogaeth: 4.001 biliwn
CMC (PPP): US$18.077 triliwn
CMC (Pres): $8.782 triliwn
CMC/pen (PPP): $4,518
CMC/pen (Pres): $2,195
Cynydd blynyddol yn
CMC y pen:
Incwm y 10% top:
Miliwnyddion: 2.0 miliwn (0.05%)

Nwyddau naturiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Asia yw cyfandir mwyaf y byd, ac felly'n gyfoethog mewn nwyddau naturiol, megis petroliwm a haearn.

Mae cynhyrchiant uchel ym myd amaeth, yn enwedig yn achos reis, yn cynnal dwysedd poblogaeth uchel yn y gwledydd sydd yn yr ardal gynnes a llaith ar y Cyhydedd neu yn ei gyffiniau. Mae'r prif cynhyrchion amaethyddol eraill yn cynnwys gwenith ac ieir.

Mae coedwigaeth i'w chael ar raddfa helaeth drwy Asia i gyd, ac eithrio de-orllewin a chanolbarth y cyfandir. Mae pysgota yn un o brif ffynonellau bwyd Asia, yn enwedig yn Japan.

Gwledydd Asia[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwledydd o Asia
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Asia
yn Wiciadur.