Dyw hi ddim yn hawdd ysgrifennu Cymraeg cywir a dyna lle mae Cysgliad mor ddefnyddiol. Mae’r casgliad o raglenni – gwirydd sillafu, thesawrws a geiriadur ar gael am ddim ar gyfer defnyddwyr Windows. Ar gyfer defnyddwyr ar offer symudol iOS, Android yn ogystal â chyfrifiaduron MacOS a Linux mae Cysill ar Lein ar gael i’w… Parhau i ddarllen Cysgliad am Ddim
S4C Clic yn darparu API o ddata rhaglenni
Wyddoch chi fod S4C Clic yn darparu API, ers sbel nawr? Mae’n cynnig ffordd hawdd o gael metadata am sioeau mewn fformat JSON. Dyma fanylion ar Hedyn ar sut i ddefnyddio’r API. Gadewch wybod os ydych chi’n creu unrhyw beth gyda fe, neu os oes gennych syniad. Er enghraifft mae’r bot Twitter newydd Clic Off… Parhau i ddarllen S4C Clic yn darparu API o ddata rhaglenni
Common Voice Cymraeg – angen dilysu erbyn 5 Rhagfyr
Mae’r swp data llais nesaf i gael ei ryddhau ganol mis Rhagfyr 2021. Rhagfyr 5ed yw’r dyddiad cau ar gyfer cyfrannu eich llais a dilysu recordiadau ar gyfer y swp yma. Y flaenoriaeth ar hyn o bryd yr hyn yw dilysu’r recordiadau. Mae 113 awr wedi eu dilysu ac 143 awr wedi eu recordio, felly… Parhau i ddarllen Common Voice Cymraeg – angen dilysu erbyn 5 Rhagfyr
LibreOffice 7.2 Newydd
LibreOffice 7.2 yw’r fersiwn mawr diweddaraf, mae’n cynnig gwell perfformiad, gwell cydnawsedd, a llawer o nodweddion newydd i roi hwb i’ch gwaith. Edrychwch ar y fideo isod am drosolwg – ac yna sgrolio i lawr am ragor o fanylion… Beth sydd i’w weld Yn LibreOffice 7.2, mae ffenestr llamlen newydd o dan y ddewislen Cymorth… Parhau i ddarllen LibreOffice 7.2 Newydd
Joomla! 4.0
Mae Joomla! yn System Reoli Cynnwys poblogaidd ar gyfer creu gwefannau. Mae’r fersiwn Gymraeg yn becyn llawn o safbwynt y defnyddiwr a’r gweinyddwr. Os nad ydych wedi defnyddio Joomla o’r blaen neu heb wneud ers sawl blwyddyn beth am roi cynnig arni? Rhyddhawyd pecyn Cymraeg Joomla 4 ar Awst 17eg, yr un diwrnod a Joomla… Parhau i ddarllen Joomla! 4.0
HEDDIW: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021
Dw i wedi blogio ar wefan Mapio Cymru: Dyma gyflwyniad i brosiect Mapio Cymru sydd yn creu map o Gymru gydag enwau llefydd yn Gymraeg. Yn ystod y sesiwn bydd cyfleoedd i chwarae gyda’r map, darganfod enwau a lleoliadau, ac i gyfrannu gwybodaeth at y genhedlaeth nesaf o apiau mapiau Cymraeg. Mae’r gwaith yn berthnasol… Parhau i ddarllen HEDDIW: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021
WordPress 5.8 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd blociau a phatrymau gwefannau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: Tri Phwerdy Hanfodol Rheoli Teclynnau gyda Blociau Ar ôl misoedd o waith caled, mae grym blociau wedi dod i’r… Parhau i ddarllen WordPress 5.8 Newydd
Golygathon Wicipedia ar gyfer Wici’r Holl Ddaear 2021 (nos Wener 16/07/2021)
Dyma fanylion am ddigwyddiad hwyl nos Wener yma: Golygathon Wicipedia ar gyfer Wici’r Holl Ddaear 2021 Cyfle i ddefnyddio rhai o’r lluniau newydd i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gadwraeth natur yng Nghymru. Bydd hyn yn sesiwn anffurfiol ar-lein gyda hyfforddiant i ddefnyddwyr newydd yn ôl y galw Croeso cynnes i bawb. Does dim… Parhau i ddarllen Golygathon Wicipedia ar gyfer Wici’r Holl Ddaear 2021 (nos Wener 16/07/2021)
WordPress 5.7 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd a lliwiau newydd i’r rhyngwyeb. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld mewn lliw, gyda lluniau drwy’r eicon WordPress ar gornel uchaf ar y chwith ar eich… Parhau i ddarllen WordPress 5.7 Newydd
Newid thema Hacio’r Iaith
Dw i wedi newid y thema y wefan am y tro achos oedd yr hen thema (P2 + newidiadau) yn achosi gwallau ar WordPress a PHP8.