1896
Jump to navigation
Jump to search
18g - 19g - 20g
1840au 1850au 1860au 1870au 1880au - 1890au - 1900au 1910au 1920au 1930au 1940au
1891 1892 1893 1894 1895 - 1896 - 1897 1898 1899 1900 1901
Digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 28 Ionawr - Collodd 57 o ddynion eu bywydau yn Nhanchwa Tylorstown, Rhondda
- 16 Ionawr - Cwymp Cymru Fydd
- 1 Chwefror - Premiere yr opera La bohème gan Giacomo Puccini, yn Torino
- 1 Mawrth - Brwydr Adwa yn Ethiopia
- Ebrill - Ysgrifennodd y Cambrian News and Merionethshire Standard ar 1 Mai 1896 fel hyn: Very large catches of fish have been made in the Estuary Mawddach this year [hyd at ddiwedd Ebrill] by natives and visitors, comprising, principally, mullet and cod. On many days over a hundredweight has been taken.
- 7 Mai - Meddai Ellis Pierce yn ei golofn "Ebion o Nant Conwy" yn y Cymro ar 7 Mai 1896, wrth gwyno am y tywydd yn ardal Dolwyddelan: Oer ac oer neillduol ydyw yr hin wedi bod ac yn parhau i fod yn Nant Conwy yma. Bu y gôg yn hir heb ganu yn nhreftadaeth ei hynafiaid. Mae'n barugo, ie, yn rhewi, yn ystod y nos, a phenau uchaf y mynyddoedd yn cael eu gorchuddio yn fynych â chaenen deneu o eira.
- 4 Mehefin - Adroddodd yr Evening Express 4 Mehefin 1896 (Pink Edition) bod y syched hir wedi dod i ben gyda chawod drom o law yn ystod y bore.
- 12 Mehefin - Adroddodd y South Wales Daily Post ar y 13 Mehefin 1896 am stwrsiwn 8tr. 4mod. o hyd, 3tr. 4mod. o'i gwmpas, ac yn pwyso 3cwt. yn cael ei ddal mewn dwr bas ar y Tywi ger Alltwaddon.
- 15 Mehefin - Daeargryn a tsunami yn Sanriku, Japan; 27,000 o bobol yn colli ei bywydau.
- 1 Gorffennaf - Kuala Lumpur yn dod yn brifddinas Maleisia
- 25 Gorffennaf - Adroddodd newyddiadur Y Dydd (31 Gorffennaf 1896) am lifogydd difrifol mewn amryw leoedd dydd Sadwrn [25 Gorffennaf], ac nid yn fwy felly na Dolgellau. Chwyddodd yr Afon Aran yn fwy nac y gwelodd neb hi o`r blaen erioed, a hyny ar ychydig rybudd. Ni wnaeth ragor o niwaid nac ymweled ag amryw dai, a daeth trwy Sarnau y pobty yn llif mawr, fel yr ydoedd Meyrick street fel afon, a`r ffordd i Felin Uchaf yr un modd; ac onibai am fod rhai pontydd yn gryfion, nid oes dadl na buasai collection mawr wedi cymeryd lle. Glanhawyd llawer ar yr afonydd oddiwrth arogl anhyfryd.
- Awst - Nifer o adroddiadau papurau newyddion am gnwd helaeth o fadarch ar draws y gogledd yn dilyn torri'r sychder hir
- 1 Medi - Yn Llanelwy, Dinbych, a Threffynnon yn ôl Y Dydd 4 Medi 1896: LLIFOGYDD. Mewn rhai parthau o Gymru y mae wedi gwneud llifogydd mawrion dydd Llun [31 Awst] a dydd Mawrth [1 Medi], yn enwedig yn Llanelwy, Dinbych, a Treffynon, ac nid oedd modd myned ar hyd yr heolydd yn y lleoedd hyn gan fod y llifogydd mor fawrion.
- Llyfrau
- R. D. Blackmore - Tales from the Telling House
- Owen Morgan Edwards - Cartrefi Cymru
- Drama
- Alfred Jarry - Ubu Roi
- Henrik Ibsen - John Gabriel Borkman
- Cerddoriaeth
- Nicholas Bennett - Alawon fy Ngwlad
- Giacomo Puccini - La Bohème (opera)
Genedigaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 14 Ionawr - John Dos Passos, nofelydd (m. 1970)
- 19 Chwefror - André Breton, llenor (m. 1966)
- 30 Mai - Howard Hawks, cyfarwyddwr ffilmiau (m. 1977)
- 19 Mehefin - Wallis Simpson, gwraig Edward VIII, brenin y Deyrnas Unedig (m. 1986)
- 2 Gorffennaf
- Prudence Heward, arlunydd (m. 1947)
- Lydia Mei, arlunydd (m. 1965)
- 9 Awst - Jean Piaget, seicolegydd (m. 1980)
- 30 Awst - Raymond Massey, actor (m. 1983)
- 29 Hydref - Iris de Freitas, gyfreithwraig (m. 1989)
- 1 Tachwedd - Edmund Blunden, bardd (m. 1974)
- 6 Rhagfyr - Ira Gershwin, brawd George Gershwin (m. 1983)
Marwolaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 8 Ionawr - Paul Verlaine, bardd, 51
- 17 Ionawr - Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, 93
- 20 Mai - Clara Schumann, pianydd a gwraig Robert Schumann, 76
- 11 Hydref - Anton Bruckner, cyfansoddwr, 72
- 21 Hydref - James Henry Greathead, peiriannydd sifil, 52
- 27 Hydref - Richard Davies diwydiannwr, 77
- 10 Rhagfyr - Alfred Nobel, cemegydd, 63
- 30 Rhagfyr - Evan Herber Evans, gweinidog, 60
Eisteddfod Genedlaethol (Llandudno)[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cadair: Ben Davies
- Coron: dim gwobr