Robert Schumann

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Robert Schumann
Robert-schumann.jpg
Ganwyd8 Mehefin 1810 Edit this on Wikidata
Zwickau Edit this on Wikidata
Bu farw29 Gorffennaf 1856 Edit this on Wikidata
Endenich, Bonn Edit this on Wikidata
Man preswylSchumann-Haus, Leipzig Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Sachsen, yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Leipzig
  • Prifysgol Heidelberg Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, pianydd, beirniad cerdd, arweinydd, cerddolegydd, cerddor, athro cerdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Cerdd a Theatr Leipzig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSymphony No. 1, Symphony No. 2, Symphony No. 3, Kinderszenen Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol, opera, symffoni, cerddoriaeth siambr Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadNiccolò Paganini Edit this on Wikidata
TadAugust Schumann Edit this on Wikidata
PriodClara Schumann Edit this on Wikidata
PlantFelix Schumann, Eugenie Schumann, Marie Schumann, Ferdinand Schumann, Julie Schumann Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature Robert Schumann-2.jpg

Cyfansoddwr Almaenig oedd Robert Schumann (8 Mehefin 1810 - 29 Gorffennaf 1856). Ystyrir ef yn un o gyfansoddwyr pwysicaf y mudiad Rhamantaidd yn y 19g.

Ganed ef yn Zwickau, yn yr hyn oedd yr adeg honno yn Deyrnas Sacsoni. Ei fwriad ar y cychwyn oedd dod yn bianydd proffesiynol, a cymerodd hyfforddiant gan Friedrich Wieck. Fodd bynnag, anafodd ei law, a phenderfynodd ganolbwyntio ar gyfansoddi.

Hyd at 1840, cyhoeddodd gyfansoddiadau ar gyfer y piano yn unig, ond yn ddiweddarach cyfansoddodd ar gyfer cerddorfa a phiano, pedair symffoni, lieder ac un opera. Bu'n ysgrifennu llawer am gerddoriaeth yn y Neue Zeitschrift für Musik, cylchgrawn a fu'n un o'i sylfaenwyr.

In 1840, priododd Clara Wieck, merch Friedrich Wieck, ar ôl brwydr gyfreithiol hir a'i thad. Treuliodd y ddwy flynedd olaf o'i fywyd mewn sefydliad ar gyfer pobl ag afiechyd meddyliol ar ôl iddo geisio lladd ei hun.