Mozilla VPN

Diogelwch, dibynadwyedd a chyflymdra — ar bob dyfais, lle bynnag yr ewch chi.

Rhwydwaith Preifat Rhithwir gan wneuthurwyr Firefox.

Cael Mozilla VPN

Gwarant arian-yn-ôl 30 diwrnod

Un tap i breifatrwydd

Syrffio, ffrydio, gemau, a gweithio, tra'n cynnal eich preifatrwydd ar-lein. P'un ai rydych chi'n teithio, yn defnyddio WiFi cyhoeddus neu'n chwilio am fwy o ddiogelwch ar-lein yn unig, byddwn bob tro'n rhoi eich preifatrwydd yn gyntaf.

Ymunwch â'r Rhestr Aros

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig Mozilla VPN yn Awstria, Gwlad Belg, Canada, Ffrainc, Yr Almaen, Iwerddon, Yr Eidal, Malaysia, Yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Singapore, Sbaen, Y Swisdir, Prydain a'r Unol Daleithiau.

  • Y gallu i gysylltu hyd at 5 dyfais
  • 400+ gweinydd mewn 30+ gwlad
  • Amgryptio ar lefel dyfais
  • Dim cyfyngiadau lled band
  • Dim cofnodi'ch gweithgaredd rhwydwaith

Rhwydwaith cyflym a diogel

Mae Mozilla VPN yn rhedeg ar rwydwaith byd-eang o weinyddion. Gan ddefnyddio'r protocol WireGuard® mwyaf datblygedig, rydym yn amgryptio eich gweithgaredd rhwydwaith ac yn cuddio'ch cyfeiriad IP. Nid ydym byth yn cofnodi, tracio, nac yn rhannu eich data rhwydwaith.

VPN gan frand y gallwch ymddiried ynddo

Ers mwy nag 20 mlynedd, mae gan Mozilla hanes o flaenoriaethu pobl a brwydro dros breifatrwydd ar-lein. Gyda chefnogaeth corff nid-er-elw, rydym wedi ymrwymo i adeiladu rhyngrwyd gwell ac iachach i bawb. Mae popeth rydym yn ei wneud yn rhan o'n cenhadaeth ac yn dilyn ein hegwyddorion.

Cysylltu â mwy na 400 gweinydd mewn dros 30 o wledydd

Dyma'n rhestr lawn o weinyddion.

Cael Mozilla VPN

Gwarant arian-yn-ôl 30 diwrnod

Ar gael mewn 15 gwlad ar hyn o bryd. Rhagor ar eu ffordd

Ymunwch â'r Rhestr Aros

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig Mozilla VPN yn Awstria, Gwlad Belg, Canada, Ffrainc, Yr Almaen, Iwerddon, Yr Eidal, Malaysia, Yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Singapore, Sbaen, Y Swisdir, Prydain a'r Unol Daleithiau.

Cwestiynau Cyffredin