Gutenberg

Disgrifiad

Mae “Gutenberg” yn enw cod ar gyfer patrwm cwbl newydd o greu gyda WordPress, sy’n anelu at chwyldroi’r profiad cyhoeddi cyfan gymaint ag y gwnaeth Gutenberg â’r gair printiedig. Mae’r project yn dilyn proses pedwar cam a fydd yn cyffwrdd â darnau mawr o WordPress – Golygu, Cyyfaddasu, Cydweithio ac Amlieithog.

Mae’r golygydd bloc yn cyflwyno dull modiwlaidd o dudalennau a chofnodion: mae pob darn o gynnwys yn y golygydd, o baragraff i oriel ddelweddau i bennawd, yn floc ei hun. Ac yn union fel blociau corfforol, gall blociau WordPress gael eu hychwanegu, eu trefnu a’u haildrefnu, gan ganiatáu i ddefnyddwyr WordPress greu tudalennau sy’n llawn cyfryngau mewn ffordd reddfol yn weledol — heb addasiadau codau byr neu HTML cyfaddas.

Cyflwynwyd y golygydd bloc gyntaf ym mis Rhagfyr 2018. Rydyn ni’n gyson yn gweithio’n galed yn mireinio’r profiad, yn creu mwy a gwell blociau, ac yn gosod y sylfaen ar gyfer cyfnodau gwaith y dyfodol. Mae pob fersiwn o WordPress yn cynnwys y nodweddion sefydlog o sawl fersiwn o ategyn Gutenberg, felly nid oes angen i chi ddefnyddio’r ategyn i elwa o’r gwaith sy’n cael ei wneud yma. Fodd bynnag, os ydych chi’n fwy anturus ac yn deall eich technoleg, mae’r ategyn Gutenberg yn cynnig y diweddaraf a’r mwyaf cynhwysfawr i chi, felly gallwch chi ymuno â ni i brofi nodweddion blaengar, dechrau chwarae gyda blociau, ac efallai cael eich ysbrydoli i adeiladu eich un eich hun.

Darganfod Rhagor

  • Dogfennaeth Defnyddiwr: Darllenwch WordPress Editor documentation am dogfennaeth fanwl ar ddefnyddio’r golygydd fel awdur yn creu cofnodion, tudalennau a rhagor.

  • Dogfennaeth Datblygwr: Darllennwch y Developer Documentation am sesiynau tiwtorial a dogfennaeth helaeth, a chyfeiriadau API ar sut i estyn y golygydd.

  • Cyfranwyr: Mae Gutenberg yn broject cod agored ac mae’n croesawu pawb sy’n cyfrannu o god i ddyluniad, o ddogfennaeth i frysbennu. Darllenwch y Llawlyfr Cyfrannwr am yr holl fanylion ar sut y gallwch chi helpu.

Mae modd canfod man datblygu project Gutenberg yn https://github.com/wordpress/gutenberg. Mae trafodaethau am y prosiect ar y Make Core Blog ac yn y sianel #core-editor yn Slack, gan gynnwys cyfarfodydd wythnosol. Os nad oes gennych gyfrif Slack, gallwch gofrestru yma .

Cwestiynau Cyffredin

Sut fedra i anfon adborth neu gael help gyda gwall?

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adroddiadau gwallau, awgrymiadau am nodwedd ac unrhyw adborth arall! Dewch draw i dudalen materion GitHub i chwilio am faterion sy’n bodoli eisoes neu agor un newydd. Er y byddwn yn ceisio treialu materion a adroddir yma ar y fforwm ategyn, fe gewch ymateb cyflymach (a lleihau dyblygu ymdrech) trwy gadw popeth yn ganolog yn y storfa GitHub.

Oes rhaid i mi ddefnyddio’r ategyn Gutenberg i gael mynediad at y nodweddion hyn?

Mae’n dibynnu ar y nodwedd rydych chi am ei defnyddio! Cadwch mewn cof bod pob fersiwn o WordPress ar ôl 5.0 yn dod gyda fersiynau sy’n cynnwys yr ategyn Gutenberg, sydd hefyd yn cynnwys, yn awtomatig nodweddion a newidiadau newydd . Os ydych chi eisiau’r nodweddion blaengar hyn, gan gynnwys eitemau mwy arbrofol, bydd angen i chi ddefnyddio’r ategyn. Gallwch ddarllen mwy yma ynghylch a yw defnyddio’r ategyn yn addas i chi.

Ble fedra i weld pa fersiynau ategyn Gutenberg sy’n cael eu cynnwys ym mhob ryddhad WordPress?

Darllenwch y ddogfen Versions in WordPress i weld tabl yn dangos pa fersiwn o ategyn Gutenberg sydd wedi’i chynnwys ym mhob ryddhad WordPress.

Beth sydd nesaf i’r project?

Pedwar cam y project yw Golygu, Cyfaddasu, Cydweithio ac Amlieithog. Gallwch glywed mwy am y project a’r cyfnodau gan Matt yn ei sgyrsiau State of the Word ar gyfer 2020 , 2019 , a 2018. Hefyd, gallwch ddilyn y nodiadau rhyddhau pythefnosol a diweddariadau cynllun project misol ar flog Make WordPress Core i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Lle ga i ddarllen rhagor am Gutenberg?

Adolygiadau

Hydref 6, 2021
htmlコードの編集がやり辛くてとても使いにくい。 classic editorの方が良い
Hydref 4, 2021
IMO: I feel I am able to build sites faster than before. The performance time as well has been amazing compared to other popular builders. This builder is faster smarter than people saying.
Hydref 3, 2021
I don't know who is using this shit but a technical personal can't do simple things. It is not possible to give a word in a text another color... Sorry, thats basic and every program can handle this.
Medi 27, 2021
That first and second icon is the stupidest joke in Guternberg. Column, group, blocks, convert group, select column, transform to block, transform to group really gets on my nerve. As a technical person, I can't even understand what is going on after a few clicks of switching back and forth columns and blocks and groups. It mess up the entire layout and can't even undo. No way any normal person can use this. I really want to love Gutenberg but this mess makes me wonder the brains behind the concept. Why make things so difficult to use and understand?
Read all 3,443 reviews

Contributors & Developers

“Gutenberg” is open source software. The following people have contributed to this plugin.

Cyfranwyr

“Gutenberg” has been translated into 51 locales. Thank you to the translators for their contributions.

Translate “Gutenberg” into your language.

Interested in development?

Browse the code, check out the SVN repository, or subscribe to the development log by RSS.

Cofnod Newid

I ddarllen y cofnod newid am Gutenberg 11.6.0, ewch i’r dudalen ryddhau .