Thema WordPress Amlieithog i Gymru

Thema Amlieithog

Mae Thema wedi ei ddatblygu er mwyn galluogi unigolion i greu gwefannau amlieithog eu hunan, gyda’r gobaith o symleiddio cyhoeddi cynnwys digidol yn Gymraeg. Gall hefyd, drwy gael ei gyfieithu, alluogi amlieithrwydd tu hwnt i’r deuawd arferol o Gymraeg/Saesneg – a chael gwefannau Cymraeg/Basgeg, Cymraeg/Catalaneg, ac yn y blaen.

Mae themâu pwrpasol hefyd ar gael ar gyfer blog ac e-fasnachu

Ewch i wefan Thema.Cymru i ddysgu rhagor.

WordPress 4.5

Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress wedi ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru!

Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd.

Diolch i Rhoslyn Prys, Carl Morris, Iwan Stanley a Gruffudd Prys.

Dyma sy’n newydd:

Gwelliannau Golygu

Dolennu Mewnlin

Canolbwyntiwch ar eich ysgrifennu gyda rhyngwyneb fydd yn tarfu llai a sy’n caniatáu i chi gysylltu’n haws â’ch cynnwys.

Fformatio Llwybrau Byr

Ydych chi’n mwynhau defnyddio llwybrau byr fformatio ar gyfer rhestrau a phenawdau? Mae nhw nawr yn fwy defnyddiol byth, gyda llinellau llorweddol a <code>.


Gwelliannau Cyfaddasu

Rhagolwg Byw Ymatebol

Bydd eich gwefan yn edrych yn dda ar bob sgrin! Gallwch weld rhagolwg yn syth ar eich dyfais symudol, tabled a bwrdd gwaith drwy’r cyfaddaswr.

Logos Penodol

Mae themâu nawr yn gallu cynnal logos ar gyfer eich busnes neu frand. Mae themâu Twenty Fifteen a Twenty Sixteen wedi eu diweddaru i gynnal logos penodol, sydd i’w gweld yn adran Hunaniaeth Gwefan y cyfaddaswr.


O Dan y Clawr

Adnewyddu Dewisol

Mae’r cyfaddaswr nawr yn cynnal fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cyflwyno rhannau o’r rhagolwg heb ailysgrifennu eich cod PHP yn JavaScript. Gallwch ei weld ar waith gyda Dewislenni.

Newid Maint Delwedd Clyfar

Mae delweddau mawr yn llwytho hyd at 50% yn gynt gyda dim colled mewn ansawdd. Mae’n edrych yn dda.

Diweddariadau Llyfrgell JavaScript

Mae jQuery 1.12.3, jQuery Migrate 1.4.0, Backbone 1.2.3, ac Underscore 1.8.3 wedi eu cynnwys.

Gwelliannau i’r Llwythwr Sgriptiau

Mae gwell cefnogaeth wedi ei ychwanegu ar gyfer sgriptiau dibyniaethau pennyn/troedyn. Mae’r wp_add_inline_script() newydd yn caniatáu ychwanegu cod ychwanegol i sgriptiau cofrestredig.

Ystadegau WordPress 4.4

Bydd WordPress 4.5 yn cael ei lansio yfory, felly mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.4. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 250 o becynnau ryddhau a 3,369 pecyn iaith hyd heddiw.

Mae’r cofnod ar Haciaith.com ar 19 Awst am WordPress 4.3 yn cyfeirio at y ffaith fod 205 o becynnau ryddhau wedi eu llwytho i lawr ar gyfer WordPress 4.2. Cynnydd felly o 45 gwefan. Does gen i ddim ffigwr ar gyfer y pecynnau iaith. Mae WordPress.org wedi ei lwytho i lawr dros 42 miliwn (42,737,524) o weithiau ym mhob iaith.

Mae cyfieithiad WordPress 4.5 wedi ei drosglwyddo i WordPress.com. Does gen i ddim data o ran defnydd y rhyngwyneb Cymraeg ar WordPress.com.

WordPress Android 5.1

Rhyngwyneb WordPress Android

Mae WordPress Android yn rhoi grym cyhoeddi yn eich dwylo chi, gan ei gwneud yn haws i greu a darllen cynnwys. Gallwch ysgrfiennu, golygu a chyhoeddi cofnodion i’ch gwfan, gwirio eich ystadegau a chael eich ysbrydoli gan gofnodion gwych y y Darllenydd.

Mae’r diweddariad yma’n gwella’r ffordd mae’r ap yn ymateb i orchmynion mewn adrannau gwahanol – Fi, Darllennydd, Sylwadau a’r sgriniau Gosodiadau Gwefan; mae newid cyfeiriadaedd a’r rhith fysellfwrdd nawr yn ymateb yn gyson.

Mae hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr sy’n ddall neu â gwelededd isel wedi ei wella drwy ddefnyddio labeli amgen.

WordPress Android 5.0

*Defnyddiwr WordPress.com? Sgriniau “Gosodiadau Gwefan” a “Fy Mhroffil” newydd sy’n caniatáu i chi newid y prif osodiadau, fel teitl eich gwefan, llinell tag a’r enw dangos cyhoeddus (ymysg eraill) – ac mae  rhagor o osodiadau newydd ar eu ffordd.

*Trwsio gwallau er mwyn gwell sefydlogrwydd wrth ychwanegu categorïau i gofnodion, edrych ar ystadegau a chyfathrebu gyda thim Cymorth WordPress.

WordPress 4.4

Mae WordPress 4.4 yn gwneud eich gwefan yn fwy cysylltiol ac ymatebol.

Thema newydd…

Mae ein thema ragosodedig diweddaraf, Twenty Sixteen, yn ddiweddariad i’r thema blog clasurol.

Mae Twenty Sixteen wedi ei adeiladu i edrych yn dda ar unrhyw ddyfais. Bydd cynllun grid llyfn, pennyn hyblyg, cynlluniau lliwiau hwyliog a rhagor, yn gwneud i’ch cynnwys ddisgleirio.

Delweddau ymatebol

Mae WordPress nawr yn darparu ffordd amgen o ddangos delweddau o feintiau penodol ar unrhyw ddyfais, gan sicrhau meintioli perffaith bob tro.

Mewnblannu eich cynnwys WordPress

Nawr mae modd mewnblannu eich cofnodion i wefannau eraill, gan gynnwys gwefannau WordPress eraill. Gollyngwch URL cofnod i’r golygydd a bydd rhagolwg o’ch mewnblaniad yn ymddangos yn syth, gan gynnwys teitl, dyfyniad a’r ddelwedd nodwedd, os ydych wedi gosod un. Byddwn hyd yn oed yn cynnwys eich eicon gwefan a dolen ar gyfer sylwadau a rhannu.

Rhagor o ddarparwyr mewnblannu

Yn ogystal a chofnodi mewngofnodion, mae WordPress 4.4 yn cynnig cefnogaeth ar gyfer pump darparwr oEmbed: Cloudup, Reddit Comments, ReverbNation, Speaker Deck, a VideoPress.

Isadeiledd API REST

Mae Infrastructure ar gyfer API REST wedi ei gynnwys yn y craidd, gan greu cyfnod newydd wrth ddatblygu gyda WordPress. Mae API REST yn darparu llwybr i ddatblygwyr, ar gyfer adeiladu ac ymestyn APIau REST ar ben WordPress.

Infrastructure yw’r rhan gyntaf o ddarparu’r API REST. Bydd diweddbwyntiau craidd yn dod cyn bo hir. I gael golwg cynnar o ddiweddbwyntiau craidd ac am ragor o wybodaeth ar estyn API REST ewch i’r ategyn swyddogol WordPress REST API.

Meta termau

Mae termau nawr yn cynnal metadata, yn yr un ffordd a chofnodion. Gweler add_term_meta(), get_term_meta(), a update_term_meta() am ragor o wybodaeth

Meta termau

Mae termau nawr yn cynnal metadata, yn yr un ffordd a chofnodion. Gweler add_term_meta(), get_term_meta(), a update_term_meta() am ragor o wybodaeth

Gwella ymholiadau sylwadau

Mae gan ymholiadau sylwadau’r gallu i drin y storfa er mwyn gwella perfformiad. Mae ymresymiadau newydd yn WP_Comment_Query yn gwneud creu ymholiadau sylwadau cadarn yn fwy syml.

Gwrthrychau termau, sylwadau a rhwydwaith

Mae’r gwrthrychau newydd WP_Term, WP_Comment, a WP_Network yn ei gwneud hi’n haws a mwy dibynadwy i ryngweithio gyda thermau, sylwadau a rhwydweithiau mewn cod.

WordPress Android 4.8

* Hwre, dewisydd thema newydd! Mae nawr hyd yn oed yn haws i bori, chwilio, cael rhagolwg, cyfaddasu eich thema ar wefannau WordPress.com.

* Cefnogaeth i wneud copïau wrth gefn ar gyfer Android 6.0, sy’n golygu fod popeth yn cael ei gadw’n ddiogel a does dim angen poeni.

* Yn olaf ond nid leiaf: Llwythi o drwsio cod bendigedig. Cafodd mater geoleoliad ei drwsio, mae’r ap nawr yn llwytho delweddau preifat yn y sylwadau ac mae hysbysiadau sydd wedi eu cyhoeddi yn cael eu dileu wrth dapio neu rannu.

WordPress iOS yn Gymraeg

Mae WordPress iOS nawr ar gael yn Gymraeg ac yn gweithio ar iPhone, iPad ac iPad touch.

Dewislenni WordPress iOS

Mae’r ap yn cynnig modd o weithio ar wefannau WordPress.com a gwefannau hunanwesteio ar sail WordPress.org. Mae hefyd yn cynnwys Darllenydd sy’n fodd o ddarllen cynnwys awduron eraill o fewn byd WordPress.

Dyma’r cyflwyniad swyddogol:

Mae ysbrydoliaeth yn taro — ar unrhyw adeg, yn unrhyw le. Rheolwch eich blog neu wefan WordPress o’ch dyfais iOS, adref neu ar daith: gallwch edrych ar eich ystadegau, cymedroli sylwadau, creu a golygu cofnodion a thudalennau a llwytho cyfryngau gwahanol. Y cyfan sydd ei angen yw blog neu wefan hunanwesteio WordPress 3.6 neu well. Gyda WordPress ar gyfer iOS mae gennych rym cyhoeddi yng nghledr eich llaw — lluniwch ddrafft o englyn byrfyfyr ar y trên, cymrwch lun yn ystod tro rhyw brynhawn ar gyfer cystadleuaeth yn y wasg. Gallwch ymateb i’r sylwadau diweddaraf neu asesu eich ystadegau i weld o le daw eich darllenwyr. Peidiwch ag anghofio â thagio eich cofnodion sy’n cael eu cyhoeddi o’r ap gyda #wponthego fel y gall y gymuned ganfod eich campweithiau.

Datblygiadau diweddaraf WordPress iOS 5.7:

• Mae modd hidlo’r Hysbysiadau yn ôl math: Sylwadau, Hoffi, Ailflogio, yn dwt!

• Roedd ein darllenydd weithiau’n methu gweld cofnodion newydd yn eich ffrydiau felly mae wedi bod i gael sbectol newydd. Gan gychwyn yn y fersiwn yma bydd yn adnabod cofnodion coll ac yn cynnig y dewis i chi o’u casglu.

• Gallwch nawr ddiweddaru llawer o osodiadau’ch gwefan WordPress.com site o fewn yr Ap.

• Er ein bod yn hoffi emoji, roedd gweld gwennoglun anferth yn rhythu arnom fel delwedd nodwedd yn ormod. Maen nhw nawr wedi eu tynnu o’r nodwedd honno.

• Rydym wedi cywiro nifer o wallau cynllun yn iOS 9oedd yn achosi tablau i edrych… bach yn hyll. Maen nhw lot deliach nawr.

Mae WordPress ar gyfer iOS yn broject Cod Agored, sy’n golygu y gallwch chi gyfrannu at ei ddatblygiad. Dysgwch ragor yn http://ios.wordpress.org. Angen cymorth gyda’r ap? Ewch i’n fforymau yn http://ios.forums.wordpress.org neu ein trydar @WordPressiOS.

—————————–

Gosod y Gymraeg:

Er mwyn defnyddio WordPress iOS yn Gymraeg mae angen paratoi ychydig ar eich iPhone, iPad neu iPad touch. Mae angen ei fod yn rhedeg iOS 8.2 neu well. Edrychwch yn Settings>General>About>Version. Os oes modd i chi ddiweddaru, gwnewch hynny.

Ewch i Settings>General>Language & Regions. O dan Preferred Language Order cliciwch ar Add Language… a gosod Cymraeg ar frig y rhestr. Bydd apiau a gwefannau yn defnyddio’r iaith gyntaf ar y rhestr.