WordPress
Fersiwn 5.2

Y Platform Cyhoeddi Personol Semantig

Yn Gyntaf Oll

Croeso. Mae WordPress yn broject arbennig iawn i mi. Mae pob datblygwr a chyfrannwr yn darparu rhywbeth unigryw iawn i'r gwaith a gyda'n gilydd gallwn greu rhywbeth prydferth rwy'n falch iawn i fod yn rhan ohono. Mae miloedd o oriau wedi mynd i fewn i WordPress, ac rydym yn ymmroddedig i'w wneud yn well bob dydd. Diolch i chi am ei wneud yn rhan o'ch byd chi.

— Matt Mullenweg

Gosod: Y gosodiad 5 munud enwog

  1. Dadsipiwch y pecyn i gyfeiriadur gwag a llwytho popeth i fyny.
  2. Agorwch wp-admin/install.php yn eich porwr. Bydd yn eich cymryd drwy'r broses o osod ffeil wp-config.php gyda manylion cysylltu eich cronfa ddata.
    1. Os nad yw hyn yn gweithio am ryw reswm, peidiwch â phoeni. Nid yw'n gweithio gyda phob gwesteiwr gwe. Agorwch wp-config-sample.php gyda golygydd testun fel WordPad neu debyg a llanw manylion eich cysylltiadau cronfa ddata.
    2. Cadwch y ffeil fel wp-config.php a'i llwytho i fyny.
    3. Agorwch wp-admin/install.php yn eich porwr.
  3. Unwaith mae'r ffeil ffurfweddiad yn ei lle, bydd y gosodwr yn gosod y tablau angenrheidiol ar gyfer eich blog. Os oes yna wall, gwiriwch eich ffeil wp-config.php eto a cheisio eto. Os yw'n methu eto, ewch i'r fforymau cefnogaeth gyda'r holl fanylion.
  4. Os nad ydych wedi cynnig cyfrinair, gwnewch nodyn o'r cyfrinair sy'n cael ei roi i chi. Os nad ydych wedi darparu enw defnyddiwr, bydd admin y cael ei ddefnyddio.
  5. Bydd y gosodwr yn anfon y dudalen mewngofnodi atoch. Mewngofnodwch gyda'r enw defnyddiwr a'r cyfrinair rydych wedi eu dewis yn ystod y gosod. Os cafodd y cyfrinair ei ddewis ar eich cyfer, cliciwch ar “Proffil” i'w newid

Diweddaru

Defnyddio'r Diweddarwr Awtomatig

Os ydych yn diweddaru o fersiwn 2.7 neu uwch, mae modd i chi ddefnyddio'r diweddarwr awtomatig:

  1. Agorwch wp-admin/update-core.php yn eich porwr a dilyn y cyfarwyddiadau.
  2. Oeddech chi'n disgwyl mwy? Dyna'r cyfan!

Diweddaru â Llaw

  1. Cyn diweddaru dim byd, gwnewch yn siŵr fod gennych gopïau wrth gefn o unrhyw ffeiliau rydych wedi eu newid, fel index.php.
  2. Dilëwch eich hen ffeiliau WordPress a chadw'r rhai rydych wedi eu newid.
  3. Llwythwch y ffeiliau i fyny.
  4. Cyfeiriwch y porwr at /wp-admin/upgrade.php.

Symud o systemau eraill

Mae Wordpress yn gallu mewnforio o nifer o systemau eraill. Yn gyntaf, mae angen gosod WordPress, a'i gael i weithio fel mae'n cael ei ddisgrifio uchod, cyn defnyddio ein offer mewnforio.

Gofynion y System

Argymhellion y System

Adnoddau Ar-lein

Os oes gennych gwestiwn sydd heb ei ateb ar y ddogfen hon, ewch i adnoddau helaeth ar-lein WordPress:

Codex WordPress
Mae'r Codex yn ffynhonnell gwybodaeth ar bopeth am WordPress. Dyma'r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth ar WordPress sydd ar gael.
Blog WordPress
Dyma lle mae'r newyddion diweddaraf i'w gael ar WordPress. Mae newyddion cyfredol WordPress yn ymddangos ar eich bwrdd gwaith gweinyddol.
Planed WordPress
Mae Planed WordPress yn gasglwr newyddion sy'n crynhoi cofnodion o flogiau WordPress.
Fforymau Cefnogaeth WordPress
Os ydych wedi chwilio ymhob man a heb ddod o hyd i ateb, mae'r fforymau cefnogaeth yn fywiog iawn gyda chymuned fawr sy'n barod i helpu. I'w helpu nhw i'ch helpu chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio teitl disgrifiadol a disgrifio eich cwestiwn yn fanwl.
Sianel IRC WordPress
Mae yna sianel sgwrsio sy'n cael ei defnyddio ar gyfer sgyrsiau rhwng pobl sy'n defnyddio WorsPress ar bynciau cefnogaeth Dylai'r wici uchod eich cyfeirio i'r man cywir. (irc.freenode.net #wordpress)

I Orffen...

Rhannwch y Cariad

Does gan WordPress ddim ymgyrch marchnata gwerth miliynnau o ddoleri na chefnogwyr o blith selebs, ond mae gennym rhywbeth gwell—chi. Os ydych yn mwynhau Wordpress, ystyriwch ddweud wrth ffrind, ei osod ar gyfer rhywun llai gwybodus na chi eich hun neu'n barod i ysgrifennu erthygl i'r cyfryngau sy'n ein hanwybyddu

WordPress yw'r parhad swyddogol o b2/cafélog, gan Michel V. Mae'r gwaith wedi ei barhau gan ddatblygwyr WordPress. Os hoffech chi gefnogi WordPress, ystyriwch gyfrannu.

Trwydded

Mae WordPress yn feddalwedd rhydd ac wedi ei ryddhau o dan amodau fersiwn 2 o'r GPL neu ( yn ôl eich dewis) unrhyw fersiwn diweddarach. Gw. testun y drwydded.