Gutenberg

Disgrifiad

Mae “Gutenberg” yn enw cod ar gyfer patrwm cwbl newydd o adeiladu a chyhoeddi gwefannau WordPress, sy’n anelu at chwyldroi’r profiad cyhoeddi cyfan gymaint ag y gwnaeth Gutenberg â’r gair printiedig. Ar hyn o bryd, mae’r project yng ngham cyntaf proses pedwar cam a fydd yn cyffwrdd â phob darn o WordPress – Golygu, Cyfaddasu, Cydweithio ac Amlieithog – ac mae’n canolbwyntio ar brofiad golygu newydd, y golygydd bloc.

Mae’r golygydd bloc yn cyflwyno dull modiwlaidd o dudalennau a chofnodion: mae pob darn o gynnwys yn y golygydd, o baragraff i oriel ddelweddau i bennawd, yn floc ei hun. Ac yn union fel blociau corfforol, gall blociau WordPress gael eu hychwanegu, eu trefnu a’u haildrefnu, gan ganiatáu i ddefnyddwyr WordPress greu tudalennau sy’n llawn cyfryngau mewn ffordd reddfol yn weledol – a heb addasiadau codau byr neu HTML cyfaddas.

Daeth y golygydd bloc ar gael gyntaf ym mis Rhagfyr 2018, ac rydym yn dal i weithio’n galed yn mireinio’r profiad, yn creu mwy a gwell blociau, ac yn gosod y sylfaen ar gyfer tri cham nesaf y gwaith. Mae ategyn Gutenberg yn rhoi’r fersiwn ddiweddaraf i chi o’r golygydd blociau fel y gallwch ymuno â ni i brofi nodweddion mwyaf blaengar, dechrau chwarae gyda blociau, ac efallai cael eich ysbrydoli i adeiladu un eich hun.

Darganf0d Rhagor

  • Dogfennaeth Defnyddiwr: Gweler dogfennaeth Golygydd WordPress am dogfennaeth fanwl ar ddefnyddio’r golygydd fel awdur yn creu cofnodion a thudalennau.

  • Dogfennaeth Datblygwr: Mae ymestyn a chyfaddasu wrth wraidd y platfform WordPress, gweler Dogfennaeth Datblygwr am sesiynau tiwtorial helaeth, dogfennaeth a chyfeirnod API ar sut i ymestyn y golygydd.

  • Cyfranwyr: Mae Gutenberg yn broject cod agored ac mae’n croesawu pawb sy’n cyfrannu o god i ddyluniad, o ddogfennaeth i frysbennu. Darllenwch y Llawlyfr Cyfrannwr am yr holl fanylion ar sut y gallwch chi helpu.

Mae hwb datblygu project Gutenberg ar Github yn: https://github.com/wordpress/gutenberg

Mae trafodaeth am y project ar Make Blog a’r sianel #core-editor yn Slack, gwybodaeth ymuno .

Cwestiynau Cyffredin

Sut fedra i anfon adborth neu gael help gyda gwall?

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adroddiadau gwallau, awgrymiadau am nodwedd ac unrhyw adborth arall! Dewch draw i dudalen materion GitHub i chwilio am faterion sy’n bodoli eisoes neu agor un newydd. Er y byddwn yn ceisio treialu materion a adroddir yma ar y fforwm ategyn, fe gewch ymateb cyflymach (a lleihau dyblygu ymdrech) trwy gadw popeth yn ganolog yn y storfa GitHub.

Beth sydd nesaf i’r project?

Pedwar cam y prosiect yw Golygu, Cyfaddasu, Cydweithio ac Amlieithog. Gallwch glywed mwy am y project a’r cyfnodau gan Matt yn ei sgyrsiau State of the Word ar gyfer 2019 a 2018 . Yn ogystal, gallwch ddilyn diweddariadau yn y blog Creu WordPress Core .

Lle ga i ddarllen rhagor am Gutenberg?

Ble fedra i weld pa fersiynau ategyn Gutenberg sy’n cael eu cynnwys ym mhob ryddhad WordPress?

Darllenwch y ddogfen Fersiynau yn WordPress i weld tabl yn dangos pa fersiwn o ategyn Gutenberg sydd wedi’i chynnwys ym mhob ryddhad WordPress.

Adolygiadau

Medi 11, 2021
I was one o those people who would be a hardcore PHP fans and only do things in plain JS. After I started looking into and experimenting with Gutenberg I took more steps into broadening my views and skillset. I truly love this new way of working with WP
Medi 8, 2021
If you tried it before and found it too slow or limited, give it another chance, it has come a long and replaced site builders, endless widget areas, and a handful of plugins for me.
Read all 3,435 reviews

Contributors & Developers

“Gutenberg” is open source software. The following people have contributed to this plugin.

Cyfranwyr

“Gutenberg” has been translated into 51 locales. Thank you to the translators for their contributions.

Translate “Gutenberg” into your language.

Interested in development?

Browse the code, check out the SVN repository, or subscribe to the development log by RSS.

Cofnod Newid

To read the changelog for Gutenberg 11.5.0, please navigate to the release page.