Coch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Coch

Lliw yw coch, yn cyfateb i olau â thonfedd o dua 625–760 nanomedr. Mae coch yn un o'r lliwiau primaidd.

Etymoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r gair coch o'r Lladin Diweddar, coccum sef ceiriosen y goeden dderw sgarlad, a ddaw ei hun o'r Groeg, Κόκκος.[1] Mae'n cyfateb i'r gair am y lliw coch yn Albaneg sef, 'kuq'.

Symboliaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r lliw coch yn gallu symboleiddio'r canlynol: Perygl, rhyfel, gwaed, poen, Comiwnyddiaeth, Sosialaeth, dicter, cariad a nwyd.

Mae rhosod coch yn symbol o gariad a phabïau yn symbol marwolaeth, yn enwedig marwolaethau milwyr yn ystod rhyfel.

Y Ddraig Goch yw arwyddlun cenedlaethol Cymru; cyfeirir ati am y tro cyntaf yng ngwaith Nennius.

Ystyron eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y Gymraeg mae "coch" yn gyfystyr a "blue" yn Saesneg yn yr ystyr "masweddus", "budr" (yn ymwneud â rhyw), e.e. jôc coch, ffilm goch (blue movie). Mae coch yn lliw a gysylltir â phuteindra mewn sawl diwylliant, gyda llusern goch neu ryw arwydd coch arall yn y ffenestr yn dynodi bod rhyw am dal ar gael yn y tŷ hwnnw (fel yn achos yr ardal golau coch adnabyddus De Wallen yn Amsterdam). Ceir y gyfrol Englynion Coch gan Wasg y Lolfa - englynion yn ymwneud â rhyw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "coch", GPC
Science-template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Coch
yn Wiciadur.