Seattle

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Seattle
Seattle

Dinas yn yr Unol Daleithiau yw Seattle. Gyda phoblogaeth o 608,660 yn 2010, hi yw dinas fwyaf talaith Washington a gogledd-orllewin yr Unol Daleithiau. Saif y ddinas ar guldir rhwng Swnt Puget a Llyn Washington, tua 183 km (114 milltir) i'r de o'r ffin â Chanada.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Space Needle, Seattle, Washington, Estados Unidos, 2017-09-02, DD 35-37 HDR.jpg
  • Adeilad Pioneer
  • Arthur Foss (llong)
  • Eglwys Gadeiriol Sant Iago
  • Y Nodwydd Ofod
  • Tŵr Smith
  • Tŷ Norvell

Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Tramffordd First Hill
Gorsaf reilffordd Heol King

Rheilffordd ysgafn Link[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Link yn estyn o Lyn Angle i Brifysgol Washington, trwy ganol y ddinas a heibio Maes Awyr Sea-Tac.

Bysiau Metro King County[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’r cwmni yn rhedeg gwasanaethau bysiau’r ddinas.

Tramiau Seattle[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan y ddinas 3 dramffordd, South Lake a First Hill.

Rheilffordd ungledrog Canolfan Seattle[golygu | golygu cod y dudalen]

Y rheilffordd ungledrog

Mae trenau’n mynd bob 10 munud rhwng Canolfan Westlake a Chanolfan Seattle.

Amtrak[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae trenau Amtrak yn mynd o Gorsaf reilffordd Heol King, Seattle, yn ymyl stadiwm y Seattle Seahawks. Mae 3 o drenau’n gwasanaethu Seattle: y Coast Starlight rhwng Seattle, Portland (Oregon) a Los Angeles; yr Amtrak Cascades rhwng Vancouver, Seattle, Tacoma, Portland, Salem (Oregon) a Eugene; a’r Empire Builder rhwng Chicago, Minneapolis/St Paul, Spokane, Portland a Seattle.[1]

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Gefeilldrefi Seattle[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag map of Washington.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Washington. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Gwefan visitseattle.org