Rwsia
Российская Федерация Rossyîskaia Ffederatsyîa | |
Arwyddair | Reveal your own Russia |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran |
Enwyd ar ôl | Rws Kiefaidd |
Prifddinas | Moscfa |
Poblogaeth | 146,804,372 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Gimn Rossiyskoy Federatsii |
Pennaeth llywodraeth | Mikhail Mishustin |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd |
Arwynebedd | 17,125,191 km² |
Gerllaw | Y Môr Baltig, Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Arctig, Y Môr Du |
Yn ffinio gyda | Aserbaijan, Belarws, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Estonia, Y Ffindir, Georgia, Casachstan, Latfia, Lithwania, Gogledd Corea, Norwy, Gweriniaeth Abchasia, Japan, Unol Daleithiau America, Yr Wcráin, Mongolia, Gwlad Pwyl, De Osetia, Gweriniaeth Pobl Luhansk, Gweriniaeth Pobl Donetsk |
Cyfesurynnau | 66.42°N 94.25°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Rwsia |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Ffederal Ffederasiwn Rwsia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Rwsia |
Pennaeth y wladwriaeth | Vladimir Putin |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Rwsia |
Pennaeth y Llywodraeth | Mikhail Mishustin |
Arian | Rŵbl Rwsiaidd |
Cyfartaledd plant | 1.7 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.816 |
Gwlad drawsgyfandirol sy'n ymestyn dros ran fawr o ogledd Ewrasia (Ewrop ac Asia) yw Ffederasiwn Rwsia (Rwsieg: Росси́йская Федера́ция, Rossiyskaya Federatsiya) neu Rwsia (Росси́я, Rossiya). Gydag arwynebedd o 17,075,400 km², y wlad fwyaf o lawer yn y byd yw Rwsia, gan orchuddio bron ddwywaith arwynebedd y wlad ail fwyaf, sef Canada. Mae gan Rwsia adnoddau enfawr mwynau ac ynni, yn ogystal â'r boblogaeth nawfed fwyaf yn y byd. Mae Rwsia yn rhannu ffiniau tir â'r gwledydd canlynol (yn wrthglocwedd, o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain): Norwy, y Ffindir, Estonia, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Belarws, Wcrain, Georgia, Aserbaijan, Casachstan, Tsieina, Mongolia a Gogledd Corea. Mae hi hefyd yn agos i'r Unol Daleithiau (talaith Alaska), Sweden a Siapan dros gulforoedd eithaf cul (Culfor Bering, y Môr Baltig, a Chulfor La Pérouse, yn ôl eu trefn).
Gynt yn Weriniaeth Sofietaidd Ffederal Sosialaidd Rwsia (GSFfSR), gweriniaeth o'r Undeb Gweriniaethau Sofietaidd Sosialaidd (UGSS), daeth Rwsia yn Ffederasiwn Rwsia yn sgil diddymiad yr Undeb Sofietaidd yn Rhagfyr 1991. Ar ôl y cyfnod Sofietaidd, trosglwyddwyd arwynebedd, poblogaeth a chynhyrchiad diwydiannol a oedd wedi'u lleoli yn Rwsia i Ffederasiwn Rwsia.
Ar ôl ymddatodiad yr Undeb Sofietaidd, daeth Ffederasiwn Rwsia newydd annibynnol yn bŵer mawr, ac ystyrir hefyd bod y wlad yn archbŵer ynni. Ystyrir bod Rwsia yn wladwriaeth olynydd i'r Undeb Sofietaidd mewn materion diplomyddol. Aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yw hi. Mae hefyd yn un o'r pum gwladwriaeth sydd ag arfau niwclear wedi'u cydnabod, ac mae'n meddu ar y stoc fwyaf o arfau eangddinistr yn y byd. Cenedl arweiniol o Gymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol yw Rwsia, ac mae'n aelod o'r G8 yn ogystal â chyrff rhyngwladol eraill.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Baner Rwsia
- Chwyldro Rwsia
- Undeb Sofietaidd
- Rhestr o brif ddinasoedd Rwsia
|
|