Yr Undeb Sofietaidd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Yr Undeb Sofietaidd
Coat of arms of the Soviet Union 1.svg
Arwyddair Пролетарии всех стран, соединяйтесь! Edit this on Wikidata
Math gwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl soviet, sosialaeth, gweriniaeth Edit this on Wikidata
Prifddinas Moscfa Edit this on Wikidata
Poblogaeth 293,047,571 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 30 Rhagfyr 1922 Edit this on Wikidata
Anthem Emyn yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Ivan Silayev Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd 22,402,200 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Tsiecoslofacia, Y Ffindir, Iran, Twrci, Mongolian People's Republic, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Gogledd Corea, Affganistan, Japan, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl, Bwlgaria, Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania, Unol Daleithiau America, Rwmania, Ymerodraeth Japan, Interwar Estonia, Interwar Lithuania, Interwar Latvia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 65°N 90°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Supreme Soviet of the Soviet Union, Congress of Soviets of the Soviet Union Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
President of the Soviet Union Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Mikhail Gorbachev Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chairman of the Council of Ministers of the USSR Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Ivan Silayev Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd gan Gwladwriaeth Ffederal, Sosialaidd, Sofietaidd Rwsia, Gweriniaeth Sofietaidd yr Wcráin, Byelorussian Soviet Socialist Republic, Transcaucasian Socialist Federative Soviet Republic Edit this on Wikidata
Arian Soviet ruble Edit this on Wikidata

Gwladwriaeth Sosialaidd un-blaid yng ngogledd Ewrasia o 1922 i 1991 oedd yr Undeb Sofietaidd (Rwsieg: Союз Советских Социалистических Республик (CCCP) Soyuz Sovetskikh Sotsialisticheskikh Respublik (SSSR)). Llywodraethwyd y wlad gan y Blaid Gomiwnyddol (КПСС) a hynny o Fosgo, prifddinas yr Undeb Sofietaidd.[1] Er mai undeb o nifer o weriniaethau llai oedd yr Undeb Sofietaidd roedd ei lywodraeth wedi'i ganoli'n llwyr ym Mosgo. Y mwyaf o'r gweriniaethau hyn oedd "Rwsia", o ran maint, poblogaeth, economeg a dylanwad gwleidyddol. Yn achlysurol, newidiai ei ffiniau ac roedd o ran maint ei harwynebedd bron mor fawr ag Ymerodraeth Rwsia heb Wlad Pwyl a'r Ffindir.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tarddiad yr Undeb Sofietaidd i'w ganfod yn y diffyg bwyd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf a arweiniodd i Chwyldro Rwsia yn 1917 a phan ymunodd mwyafrif milwyr Petrograd â'r chwyldro gorfodwyd y Tsar Nicholas II i ymddiswyddo o'i frenhiniaeth.

Arweiniwyd y Bolshevikiaid gan Vladimir Lenin a gorchfygwyd y Llywodraeth Dros-dro. Sefydlwyd "Gwladwriaeth Sofiet Sosialaidd, Ffederal Rwsia" a chychwynodd Rhyfel Cartref Rwsia. Cefnogwyd y Comiwnyddion gan y fyddin a chymerwyd drosod peth tir yn yr hen Ymerodraeth. Erbyn 1922 roedd hi'n amlwg mai'r Bolshevikiaid oedd wedi trechu a ffurfiwyd Undeb allan o'r is-weriniaethau llai megis Rwsia, Armenia, yr Wcráin a Bielorwsia. Yn dilyn marwolaeth Lenin yn 1924, a mân-frwydrau am rym, daeth Joseph Stalin i'r brig yng nghanol y 1920au. Fe sodrodd ideoleg y wlad yn sownd mewn Marcsiaeth–Leniniaeth a dilynodd hynny drwy ganoli pwer ac economi'r Undeb. O ganlyniad gwelwyd twf aruthrol yn niwydiant a chyfunoliad y wlad. Cyflwynodd Stalin y Cynlluniau Pum Mlynedd a ffermau cyfunol. Datblygodd yr Undeb Sofietaidd ac erbyn 1922 roedd yn wlad ddiwydiannol pwysig iawn. Roedd hyn yn ei pharatoi'n solad ar gyfer yr Ail Ryfel Byd.[2] Pan welodd Stalin fod Ffasgaeth yn chwalu drwy'r wlad fel tân gwyllt, cychwynodd greu panig politicaidd a system garchardai'r Gwlag a barhaodd hyd at y 1950au.

Cydnabyddwyd nerth yr Undeb Sofietaidd ers yr Ail Ryfel Byd oherwydd ei nerth milwrol, cymorth i wledydd datblygol ac ymchwil gwyddonol, yn bennaf ar gyfer technoleg gofod ac arfau. Fodd bynnag, roedd perthynas yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau wedi dirywio'n enbyd ac o ganlyniad dechreuodd y Rhyfel Oer. Adeiladwyd Sputnik I, y lloeren gyntaf i gylchdroi'r ddaear yn yr Undeb Sofietaidd.

Yn ail hanner y 1980au cyhoeddodd Mikhail Gorbachev, Ysgrifennydd Cyffredin y Blaid Gomiwnyddol, bolisi o glasnost (didwylledd) a perestroika (newid y strwythur economaidd). O ganlyniad cafwyd cyfarfod rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd ym 1986 a 1987 a chyfarfu Ronald Reagan, Arlywydd yr Unol Daleithiau gyda Gorbachev ym 1988 a chafodd nifer o arfau yn Ewrop eu lleihau.

Cyn yr Undeb Sofietaidd roedd gwledydd comiwnyddol dwyrain Ewrop yn datgyfannu. Ond o dan reolaeth Boris Yeltsin diddymodd yr Undeb Sofietaidd yn heddychol ym mis Rhagfyr 1991. Ymunodd y mwyafrif o aelod-gweriniaethau yr Undeb Sofietaidd â'r Gymanwlad Gwladwriaethau Annibynnol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Bridget O'Laughlin (1975) Marxist Approaches in Anthropology Annual Review of Anthropology Cyfrol 4: tud. 341–70 (Hydref 1975) doi:10.1146/annurev.an.04.100175.002013.
    William Roseberry (1997) Marx and Anthropology Annual Review of Anthropology, Cyfrol 26: tud. 25–46 (Hydref 1997) doi:10.1146/annurev.anthro.26.1.25
  2. Robert Service (9 Medi 2005). Stalin: a biography. Picador. ISBN 978-0-330-41913-0.