Thunderbird 68 – beth sy’n newydd

Mae Thunderbird 68.5.0 wedi ei ryddhau gyda nifer o nodweddion newydd a diweddariadau diogelwch. Mae’r rhaglen yn cynnig nodwedd rheoli e-byst, calendr a rheolwr tasgau all-lein. Mae modd trefnu iddo reoli nifer o gyfrifon e-byst ar-lein er mwyn eu diogelu all-lein. Mae’r Thunderbird newydd eisoes ar gael drwy’r system diweddaru a hefyd drwy wefan Cymraeg… Darllen Rhagor »

Firefox 73 – beth sy’n newydd

Mae Firefox wedi ryddhau fersiwn newydd o’u porwr gwe poblogaidd. Mae’r newidiadau yn fersiwn 73.0 yn llai nag arfer. Maen nhw’n cynnwys cywiriadau diogelwch yn ogystal â dwy brif nodwedd newydd. Bydd yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig neu mae ar gael o wefan Cymraeg Firefox yn: https://www.mozilla.org/cy/firefox/new/ 1. Rhagosod Chwyddo Tudalen Cyffredinol Gall defnyddwyr Firefox… Darllen Rhagor »

Newyddion Common Voice, Ionawr 2020

Cyfraniadau Erbyn hyn mae gwefan Common Voice Cymraeg wedi casglu 79 awr o recordiadau gyda 61 awr wedi eu dilysu. Hyd yma mae 1163 o bobl wedi cyfrannu. *Mae dal angen parhau i gyfrannu, felly rydym yn gofyn i chi gyfrannu ac annog teulu, ffrindiau, cyd-weithwyr, sefydliadau a chwmnïau i gyfrannu.* Byddai’n dda gallu cynyddu’r… Darllen Rhagor »

LibreOffice 6.4

Mae fersiwn newydd o LibreOffice wedi ei ryddhau yn cynnwys nifer o nodweddion newydd. Dyma’r manylion: Gweithiwch yn gynt, gyda mathau amrywiol o ffeiliau Mae cydnawsedd â Microsoft Office wedi ei wella’n sylweddol, yn arbennig ar gyfer ffeilia DOCX, PPTX ac Excel 2003 XML. Yn y cyfamser, yn Calc, mae’r perfformiad wedi gwella ar gyfer… Darllen Rhagor »

Y Microsoft Edge Newydd :-)

Diweddariad *Mae modd diweddaru i’r Microsoft Edge newydd a defnyddio’r rhyngwyneb Cymraeg* Diolch i wefan cymorth Microsoft GB mae rhyngwyneb Cymraeg ar yr Edge newydd. Dyma sut mae ei gael i weithio: Mynd i Settings (clicio ar y byrgyr)>Language>Add language > Dewis y Gymraeg, yna clico ar y Tri dot > Display Microsoft Edge in… Darllen Rhagor »

Linux Mint 19.3

Pob chwech mis mae’r dosbarthiadau mawr Linux yn diweddaru eu hunain, gan gynnig gwelliannau a’r meddalwedd diweddaraf. Yn yr achos yma ryddhaodd Linux Mint eu fersiwn newydd 19.3 “Tricia” ym mis Rhagfyr. Mae manylion am y diweddariad i’w gael ar wefan Linux Mint a chyfarwyddiadau ar sut i’w ddiweddaru o 19.2. Fersiwn Cinnamon sy’n cynnwys… Darllen Rhagor »

WordPress 5.3

Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress, fersiwn 5.3 wedi ei ryddhau ac yn ymddangos ar fyrddau gwaith gweinyddwyr WordPress ar draws y byd. Dyma’r cyflwyniad: Mae 5.3 yn ehangu ac yn mireinio’r golygydd bloc a gyflwynwyd yn WordPress 5.0 gyda blociau newydd, rhyngweithio mwy greddfol, a gwell hygyrchedd. Mae nodweddion newydd yn y golygydd yn cynyddu… Darllen Rhagor »

Common Voice Cymraeg – brawddegau newydd!

Mae bron i 3500 o frawddegau newydd difyr wedi eu hychwanegu i Common Voice Cymraeg yn ddiweddar ac yn chwilio am unigolion i’w recordio! Diolch am eich cefnogaeth i Common Voice yn y gorffennol. Byddwn yn ddiolchgar petai modd i chi sôn wrth eich ffrindiau, teulu a’ch cydweithwyr am y datblygiad newydd yma a’r cyfle… Darllen Rhagor »